Y Salmau 57 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 57I’r Pencerdd, Al-taschith, Michtam Dafydd, pan ffodd rhag Saul i’r ogof.

1Trugarha wrthyf, O DDUW, trugarha wrthyf: canys ynot y gobeithiodd fy enaid; ie, yng nghysgod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hwn heibio.

2Galwaf ar DDUW Goruchaf; ar DDUW a gwblha â mi.

3Efe a enfyn o’r nefoedd, ac a’m gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a’m llyncai. Sela. Denfyn DUW ei drugaredd a’i wirionedd.

4Fy enaid sydd ymysg llewod: gorwedd yr wyf ymysg dynion poethion, sef meibion dynion, y rhai y mae eu dannedd yn waywffyn a saethau, a’u tafod yn gleddyf llym.

5Ymddyrcha, DDUW, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.

6Darparasant rwyd i’m traed; crymwyd fy enaid; cloddiasant bydew o’m blaen; syrthiasant yn ei ganol. Sela.

7Parod yw fy nghalon, O DDUW, parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf.

8Deffro, fy ngogoniant; deffro, nabl a thelyn: deffroaf yn fore.

9Clodforaf di, ARGLWYDD, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.

10Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau.

11Ymddyrcha, DDUW, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help