1Os gwnaed di yn llywodraethwr ar y wledd, nac ymddyrchafa, eithr bydd iddynt megis un ohonynt hwy: gofala drostynt, ac felly eistedd i lawr.
2Ac wedi i ti wneuthur dy swydd, cymer dy le, fel y byddych lawen gyda hwynt, ac y derbyniech goron am dy iawn lywodraeth ar y wledd.
3Llefara di, yr hwn wyt hynaf, canys hyn sy weddus i ti; eithr trwy ddiwydrwydd gwybodaeth, ac na rwystra gerdd.
4Na thywallt ymadrodd pan fyddo amser i wrando; ac na ddangos dy ddoethineb allan o amser.
5Megis sêl o garbuncl mewn gwisg o aur, yw cytsain miwsig wrth gwmnïaeth gwin.
6Megis sêl o smaragdus mewn boglyn o aur, yw melystra miwsig gyda’r gwin melys.
7Ti ŵr ieuanc, llefara pan fyddo rhaid, a hynny yn brin, pan y’th ofynner ddwywaith.
8Gwna ddiben ar dy ymadrodd: cynnwys lawer mewn ychydig eiriau: bydd megis un â gwybodaeth ganddo, ac yn ddistaw hefyd.
9Nac ymgystadla ymysg gwŷr mawr; ac na siarad lawer lle y byddo hynafgwyr.
10O flaen taran yn y man y daw mellten; ac o flaen y llednais yr â ffafr.
11Cyfod mewn pryd, ac na fydd olaf: rhed i’th dŷ, ac na segura:
12Yno chwarae, a gwna dy feddwl; ond nid mewn pechod, nac ymadrodd balch.
13A bendithia am hyn yr hwn a’th wnaeth, ac a’th lanwodd â’i bethau da.
14Y neb a ofna’r Arglwydd a dderbyn ei addysg ef; a’r hwn a foregodo i’w geisio ef, a gaiff ewyllys da.
15Yr hwn a geisio’r ddeddf a lenwir â hi; a’r rhagrithiwr a dramgwydda wrthi hi.
16Y rhai a ofnant yr Arglwydd a gânt farn dda, a chyfiawnderau a gyneuant fel goleuni.
17Y pechadur a wrthyd gerydd, ac a gaiff esgus wrth ei ewyllys ei hun.
18Gŵr a gymero gyngor, ni ddiystyra ddeall: ond y dieithr a’r balch ni arswyda gan ofn; ie, wedi iddo wneuthur peth ohono ei hun heb gyngor.
19Na wna ddim heb gyngor; ac wedi gwneuthur, nac edifarha.
20Na ddos ar hyd ffordd y gellych syrthio arni, ac na thramgwydda ymysg y cerrig.
21Na fydd hyderus ar ffordd ddirwystr.
22Gwylia dy blant dy hun hefyd.
23Ym mhob gweithred dda ymddiried i’th enaid dy hun; canys hyn yw cadw y gorchmynion.
24Yr hwn a gredo yn yr Arglwydd, a ddisgwyl ar y gorchymyn; a’r hwn a obeithio ynddo ef, ni bydd dim gwaeth iddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
