1A Dafydd a wnaeth iddo dai yn ninas Dafydd, ac a baratôdd le i arch DUW, ac a osododd iddi babell.
2A Dafydd a ddywedodd, Nid yw i neb ddwyn arch DUW, ond i’r Lefiaid: canys hwynt a ddewisodd yr ARGLWYDD i ddwyn arch DUW, ac i weini iddo ef yn dragywydd.
3A Dafydd a gynullodd holl Israel i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch yr ARGLWYDD i’w lle a baratoesai efe iddi hi.
4A Dafydd a gynullodd feibion Aaron, a’r Lefiaid.
5O feibion Cohath; Uriel y pennaf, a’i frodyr, cant ac ugain.
6O feibion Merari; Asaia y pennaf, a’i frodyr, dau cant ac ugain.
7O feibion Gersom; Joel y pennaf, a’i frodyr, cant a deg ar hugain.
8O feibion Elisaffan; Semaia y pennaf, a’i frodyr, dau cant.
9O feibion Hebron; Eliel y pennaf, a’i frodyr, pedwar ugain.
10O feibion Ussiel; Amminadab y pennaf, a’i frodyr, cant a deuddeg.
11A Dafydd a alwodd am Sadoc ac am Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid, am Uriel, Asaia, a Joel, Semaia, ac Eliel, ac Amminadab,
12Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi sydd bennau-cenedl ymhlith y Lefiaid: ymsancteiddiwch chwi a’ch brodyr, fel y dygoch i fyny arch ARGLWYDD DDUW Israel i’r lle a baratoais iddi hi.
13Oherwydd nas gwnaethoch o’r dechreuad, y torrodd yr ARGLWYDD ein DUW arnom ni, oblegid na cheisiasom ef yn y modd y dylasem.
14Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a ymsancteiddiasant i ddwyn i fyny arch ARGLWYDD DDUW Israel.
15A meibion y Lefiaid a ddygasant arch DUW ar eu hysgwyddau, wrth drosolion, megis y gorchmynnodd Moses, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
16A Dafydd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid, ar iddynt osod eu brodyr y cerddorion i leisio ag offer cerdd, nablau, a thelynau, a symbalau, yn lleisio gan ddyrchafu llef mewn gorfoledd.
17Felly y Lefiaid a osodasant Heman mab Joel; ac o’i frodyr ef Asaff mab Berecheia; ac o feibion Merari eu brodyr, Ethan mab Cusaia.
18A chyda hwynt eu brodyr o’r ail radd, Sechareia, Ben, a Jaasiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, Eliab, a Benaia, a Maaseia, a Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obed-edom, a Jehiel, y porthorion.
19Felly Heman, Asaff, ac Ethan, y cerddorion, oeddynt i leisio â symbalau pres.
20A Sechareia, ac Asiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, ac Eliab, a Maaseia, a Benaia, a ganent nablau ar Alamoth.
21A Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obed-edom, a Jehiel, ac Asaseia, oeddynt â thelynau ar y Seminith i ragori.
22Chenaneia hefyd oedd flaenor y Lefiaid ar y gân: efe a ddysgai eraill am y gân, canys cyfarwydd ydoedd.
23A Berecheia ac Elcana oedd borthorion i’r arch.
24A Sebaneia, a Jehosaffat, a Nathaneel, ac Amasai, a Sechareia, a Benaia, ac Elieser, yr offeiriaid, oedd yn lleisio mewn utgyrn o flaen arch DUW: Obed-edom hefyd a Jeheia oedd borthorion i’r arch.
25Felly Dafydd a henuriaid Israel, a thywysogion y miloedd, a aethant i ddwyn i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD o dŷ Obed-edom mewn llawenydd.
26A phan gynorthwyodd DUW y Lefiaid oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, hwy a offrymasant saith o fustych, a saith o hyrddod.
27A Dafydd oedd wedi ymwisgo mewn gwisg o liain main; a’r holl Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a’r cantorion, Chenaneia hefyd meistr y gân, a’r cerddorion. Ac am Dafydd yr oedd effod liain.
28A holl Israel a ddygasant i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD â bloedd, â llais trwmped, ag utgyrn, ac â symbalau, yn lleisio gyda’r nablau a’r telynau.
29A phan ydoedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn dyfod i ddinas Dafydd, Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu Dafydd y brenin yn dawnsio ac yn chwarae: a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.