Exodus 19 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yn y trydydd mis, wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft, y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai.

2Canys hwy a aethant o Reffidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai; gwersyllasant hefyd yn yr anialwch: ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd.

3A Moses a aeth i fyny at DDUW: a’r ARGLWYDD a alwodd arno ef o’r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel;

4Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i’r Eifftiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y’ch dygais ataf fi fy hun.

5Yn awr, gan hynny, os gan wrando y gwrandewch ar fy llais, a chadw fy nghyfamod, chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys eiddof fi yr holl ddaear.

6A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma’r geiriau a leferi di wrth feibion Israel.

7A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchmynasai yr ARGLWYDD iddo.

8A’r holl bobl a gydatebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr ARGLWYDD. A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr ARGLWYDD.

9A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf atat mewn cwmwl tew, fel y clywo’r bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i’r ARGLWYDD.

10Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddiw ac yfory; a golchant eu dillad,

11A byddant barod erbyn y trydydd dydd: oherwydd y trydydd dydd y disgyn yr ARGLWYDD yng ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai.

12A gosod derfyn i’r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fyny i’r mynydd, neu gyffwrdd â’i gwr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â’r mynydd a leddir yn farw.

13Na chyffyrdded llaw ag ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano’r utgorn yn hirllaes, deuant i’r mynydd.

14A Moses a ddisgynnodd o’r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad.

15Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; nac ewch yn agos at eich gwragedd.

16A’r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmwl tew ar y mynydd, a llais yr utgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll.

17A Moses a ddug y bobl allan o’r gwersyll i gyfarfod â DUW; a hwy a safasant yng ngodre’r mynydd.

18A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, oherwydd disgyn o’r ARGLWYDD arno mewn tân: a’i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a’r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr.

19Pan ydoedd llais yr utgorn yn hir, ac yn cryfhau fwyfwy, Moses a lefarodd; a DUW a atebodd mewn llais.

20A’r ARGLWYDD a ddisgynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr ARGLWYDD Moses i ben y mynydd; a Moses a aeth i fyny.

21A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos i waered, gorchymyn i’r bobl; rhag iddynt ruthro at yr ARGLWYDD i hylltremu, a chwympo llawer ohonynt.

22Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nesânt at yr ARGLWYDD; rhag i’r ARGLWYDD ruthro arnynt.

23A dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, Ni ddichon y bobl ddyfod i fyny i fynydd Sinai: oblegid ti a dystiolaethaist wrthym, gan ddywedyd, Gosod derfyn ynghylch y mynydd, a sancteiddia ef.

24A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fyny, ac Aaron gyda thi: ond na ruthred yr offeiriaid a’r bobl, i ddyfod i fyny at yr ARGLWYDD; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy.

25Yna yr aeth Moses i waered at y bobl, ac a ddywedodd wrthynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help