1Moeswch i’r ARGLWYDD, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.
2Moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw: addolwch yr ARGLWYDD ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd.
3Llef yr ARGLWYDD sydd ar y dyfroedd: DUW y gogoniant a darana; yr ARGLWYDD sydd ar y dyfroedd mawrion.
4Llef yr ARGLWYDD sydd mewn grym: llef yr ARGLWYDD sydd mewn prydferthwch.
5Llef yr ARGLWYDD sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr ARGLWYDD gedrwydd Libanus.
6Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn.
7Llef yr ARGLWYDD a wasgara y fflamau tân.
8Llef yr ARGLWYDD a wna i’r anialwch grynu: yr ARGLWYDD a wna i anialwch Cades grynu.
9Llef yr ARGLWYDD a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef.
10Yr ARGLWYDD sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr ARGLWYDD a eistedd yn Frenin yn dragywydd.
11Yr ARGLWYDD a ddyry nerth i’w bobl: yr ARGLWYDD a fendithia ei bobl â thangnefedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
