Numeri 29 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac yn y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y bydd i chwi gymanfa sanctaidd; dim caethwaith nis gwnewch: dydd i ganu utgyrn fydd efe i chwi.

2Ac offrymwch offrwm poeth yn arogl peraidd i’r ARGLWYDD; un bustach ieuanc, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid perffaith-gwbl:

3A’u bwyd-offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd;

4Ac un ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen:

5Ac un bwch geifr yn bech-aberth, i wneuthur cymod drosoch:

6Heblaw poethoffrwm y mis, a’i fwyd-offrwm, a’r poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’u diod-offrwm hwynt, wrth eu defod hwynt, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r ARGLWYDD.

7Ac ar y degfed dydd o’r seithfed mis hwn cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau: dim gwaith nis gwnewch ynddo.

8Ond offrymwch boethoffrwm i’r ARGLWYDD, yn arogl peraidd, un bustach ieuanc, un hwrdd, saith oen blwyddiaid: byddant berffaith-gwbl gennych.

9A’u bwyd-offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd;

10Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen:

11Un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw pech-aberth y cymod, a’r poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’u diod-offrymau.

12Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch; eithr cedwch ŵyl i’r ARGLWYDD saith niwrnod.

13Ac offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD; tri ar ddeg o fustych ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid: byddant berffaith-gwbl.

14A’u bwyd-offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, o’r tri bustach ar ddeg; dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd, o’r ddau hwrdd;

15A phob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r pedwar oen ar ddeg:

16Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.

17Ac ar yr ail ddydd yr offrymwch ddeuddeng mustach ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith-gwbl.

18A’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

19Ac un bwch geifr, yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm a’u diod-offrymau.

20Ac ar y trydydd dydd, un bustach ar ddeg, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith-gwbl:

21A’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

22Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.

23Ac ar y pedwerydd dydd, deng mustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith-gwbl:

24Eu bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

25Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.

26Ac ar y pumed dydd, naw bustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith-gwbl.

27A’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod;

28Ac un bwch yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.

29Ac ar y chweched dydd, wyth o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith-gwbl.

30A’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

31Ac un bwch yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.

32Ac ar y seithfed dydd, saith o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith-gwbl.

33A’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth eu defod:

34Ac un bwch yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.

35Ar yr wythfed dydd, uchel ŵyl fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch ynddo.

36Ond offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD; un bustach, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid, perffaith-gwbl.

37Eu bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustach, a chyda’r hwrdd, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

38Ac un bwch yn bech-aberth: heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.

39Hyn a wnewch i’r ARGLWYDD ar eich gwyliau; heblaw eich addunedau, a’ch offrymau gwirfodd, gyda’ch offrymau poeth, a’ch offrymau bwyd, a’ch offrymau diod, a’ch offrymau hedd.

40A dywedodd Moses wrth feibion Israel yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help