1Gan dri pheth yr euthum i yn deg, ac y codais i yn deg gerbron yr Arglwydd a dynion; Cytundeb brodyr, a chyfeillach cymdogion, a gŵr a gwraig yn cytuno â’i gilydd.
2Tri math ar ddyn sy gas gan fy enaid i, ac yr ydwyf yn anfodlon iawn i’w buchedd; Tlawd balch, a chyfoethog celwyddog, a henwr godinebus angall.
3Oni chesglaist ti ddim yn dy ieuenctid, pa fodd y cei di ddim yn dy henaint?
4Mor hardd yw barn ar rai penllwyd! a medru cyngor ar hynafgwyr!
5Mor hardd yw doethineb hynafgwyr! a deall a chyngor mewn rhai anrhydeddus!
6Coron hynafgwyr yw gwybod llawer; a’u gorfoledd yw ofn yr Arglwydd.
7Naw peth a gyfrifais i yn ddedwydd yn fy nghalon, a’r degfed a draethaf fi â’m tafod; Dyn yn cael llawenydd o’i blant, ac yn byw i weled cwymp ei elynion:
8Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn cytal â gwraig synhwyrol, a’r hwn ni lithrodd ei dafod, ac ni wasanaethodd yr hwn sydd anaddas iddo:
9Gwyn ei fyd yr hwn a gafodd synnwyr, a’r hwn a draetho wrth rai a wrandawo.
10Mor fawr yw’r hwn sydd yn cael doethineb! ond nid oes neb uwchlaw yr hwn sydd yn ofni’r Arglwydd.
11Cariad yr Arglwydd sydd eglurach na dim: i ba beth y cyffelybir yr hwn sydd yn cael gafael arno ef?
12Ofn yr Arglwydd yw dechreuad ei gariad ef; a ffydd yw dechreuad glynu wrtho ef.
13Dewis bob dyrnod, ond dyrnod ar y galon; a phob drygioni, ond drygioni gwraig;
14A phob niwed, ond niwed caseion; a phob dial, ond dial gelynion.
15Nid oes pen waeth na phen sarff, na digofaint waeth na digofaint gelyn.
16Gwell gennyf fi gytal â llew, ac â draig, na chytal â gwraig ddrwg.
17Y mae drygioni gwraig yn newidio ei hwyneb hi, ac yn tywyllu ei hwynepryd hi fel arth.
18Yng nghanol ei gymdogion yr eistedd ei gŵr hi; ac efe a ucheneidia o’i anfodd o’i hachos hi.
19Bychan yw pob drwg wrth ddrwg gwraig; syrthied coelbren pechadur arni hi.
20Fel y mae dringfa dywodlyd i draed hynafgwr, felly y mae gwraig ddrwg ei thafod i ŵr distaw.
21Na thramgwydda wrth degwch gwraig; ac na chwennych wraig er trythyllwch.
22Llawn dig, a digywilydd-dra, a mawr waradwydd, yw gwraig, os rhydd hi i’w gŵr ei gynhaliaeth.
23Gwraig ddrwg a wna galon isel, ac wyneb trist, ac archoll calon. Dwylo gweiniaid, a gliniau rhyddion, yw’r hon ni chynorthwya ei gŵr yn ei gyfyngdra.
24Trwy wraig y daeth dechreuad pechod; ac o’i phlegid hi yr ydym ni yn meirw oll.
25Na ddod i ddwfr le i fyned trosodd, nac i wraig ddrwg ryddid i rodienna o amgylch.
26Onid â hi wrth dy law di, tor hi oddi wrth dy gnawd; dod iddi lythyr ysgar, a gollwng hi yn rhydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
