Job 32 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Felly y tri gŵr yma a beidiasant ag ateb i Job, am ei fod ef yn gyfiawn yn ei olwg ei hun.

2Yna digofaint Elihu, mab Barachel y Busiad, o genedl Ram, a gyneuodd: ei ddigofaint ef a enynnodd yn erbyn Job, am farnu ohono ei enaid yn gyfiawn o flaen DUW.

3A’i ddigofaint ef a gyneuodd yn erbyn ei dri chyfaill, am na chawsent hwy ateb, ac er hynny, farnu ohonynt Job yn euog.

4Elihu hefyd a arosasai ar Job nes darfod iddo lefaru: canys yr oeddynt hwy yn hŷn nag ef o oedran.

5Pan welodd Elihu nad oedd ateb gan y triwyr hyn, yna y cyneuodd ei ddigofaint ef.

6Ac Elihu, mab Barachel y Busiad, a atebodd ac a ddywedodd, Ieuanc ydwyf o oedran, chwithau ydych hen iawn: am hynny yr arswydais, ac yr ofnais ddangos fy meddwl i chwi.

7Dywedais, Dyddiau a draethant, a lliaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb.

8Ond y mae ysbryd mewn dyn; ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall.

9Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bob amser: ac nid yw hynafgwyr yn deall barn.

10Am hynny y dywedais, Gwrando fi; minnau a ddangosaf fy meddwl.

11Wele, disgwyliais wrth eich geiriau; clustymwrandewais â’ch rhesymau, tra y chwiliasoch chwi am eiriau.

12Ie, mi a ddeliais arnoch: ac wele, nid oedd un ohonoch yn argyhoeddi Job, gan ateb ei eiriau ef:

13Rhag dywedyd ohonoch, Ni a gawsom ddoethineb: DUW sydd yn ei wthio ef i lawr, ac nid dyn.

14Er na hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i: ac nid atebaf finnau iddo â’ch geiriau chwi.

15Hwy a synasant, nid atebasant mwy; peidiasant â llefaru.

16Wedi disgwyl ohonof, (canys ni lefarant, eithr sefyll heb ateb mwy,)

17Dywedais, Minnau a atebaf fy rhan, minnau a ddangosaf fy meddwl.

18Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i.

19Wele, fy mol sydd fel gwin nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion.

20Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: agoraf fy ngwefusau, ac atebaf.

21Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb: ni wenieithiaf wrth ddyn.

22Canys ni fedraf wenieithio; pe gwnelwn, buan y’m cymerai fy Ngwneuthurwr ymaith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help