Y Salmau 93 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 93

1Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu, efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr ARGLWYDD nerth, ac ymwregysodd: y byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo.

2Darparwyd dy orseddfainc erioed: ti wyt er tragwyddoldeb.

3Y llifeiriaint, O ARGLWYDD, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf; y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau.

4Yr ARGLWYDD yn yr uchelder sydd gadarnach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr.

5Sicr iawn yw dy dystiolaethau: sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ, O ARGLWYDD, byth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help