1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed.
2Gwialen dy nerth a enfyn yr ARGLWYDD o Seion: Ilywodraetha di yng nghanol dy elynion.
3Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti.
4Tyngodd yr ARGLWYDD, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec.
5Yr ARGLWYDD ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint.
6Efe a farn ymysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad.
7Efe a yf o’r afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
