1Canys y mae dy Ysbryd anllygredig di ym mhob peth.
2Am hynny yr wyt ti yn ceryddu bob ychydig ac ychydig, y rhai a droseddant, ac yn eu rhybuddio trwy alw i’w cof hwynt y pethau y pechasant ynddynt, fel yr ymadawent â’u drygioni, ac y credent ynot ti, O Arglwydd.
3Canys dy ewyllys di oedd trwy ddwylo ein tadau ni ddifetha hen breswylwyr y tir sanctaidd,
4Y rhai oedd gas gennyt ti, oherwydd atgasaf weithredoedd swynion, ac aberthau annuwiol,
5Ac anhrugarog leiddiaid y plant hynny hefyd, a bwytawyr perfedd cnawd dynion, a’u gwleddau gwaedlyd,
6Gyda’u hoffeiriaid o ganol eu gwehilion eilunaddolaidd, a’r tadau y rhai a laddodd â’u dwylo eu hun eneidiau digarad;
7Fel y gallai’r wlad sy guaf gennyt ti gael plant Duw i’w chyfanheddu yn addas.
8Eithr ti a arbedaist y rhai hyn megis dynion, ac a anfonaist gacwn o flaen dy lu, i’w goresgyn hwy bob ychydig ac ychydig.
9Nid oherwydd na allasit ti ddarostwng yr annuwiol i’r rhai cyfiawn trwy ryfel, neu eu difetha hwy ar unwaith trwy fwystfilod creulon, neu air caled;
10Eithr gan farnu o fesur ychydig ac ychydig, ti a roddaist le i edifeirwch, pan nad oedd anhysbys i ti fod eu cenhedlaeth hwynt yn ddrygionus, a’u drygioni yn anianol, ac na newidiai eu meddwl hwynt byth:
11Canys hiliogaeth felltigedig oeddynt hwy o’r dechreuad: ond ni roddaist ti ddiogelwch iddynt am y pethau y pechent hwy ynddynt, er ofn neb.
12Oblegid pwy a ddywed, Beth a wnaethost ti? neu pwy a wrthwyneba dy farn di? pwy a gwyna rhagot ti am y cenhedloedd a ddifethwyd, y rhai a wnaethost ti? neu pwy a ddaw i sefyll i’th erbyn, i ddial dros ddynion anghyfiawn?
13Nid oes Duw ond tydi yn gofalu am bob peth, i ddangos nad wyt yn barnu yn anghyfiawn.
14Nid oes na brenin na theyrn a ddichon osod ei wyneb yn dy erbyn di, am y rhai a gosbaist ti.
15Am dy fod yn gyfiawn, yr ydwyt ti yn trefnu pob peth yn gyfiawn, gan gyfrif yn beth amherthynol i’th allu di roddi barn yn erbyn yr hwn ni ddylai ei gosbi.
16Oblegid dechreuad cyfiawnder yw dy nerth di; a’th fod di yn Arglwydd ar bob peth, sydd yn peri i ti arbed pob peth.
17Pan ni chredir dy fod di o berffaith allu, yr wyt ti yn dangos dy nerth; ac ymhlith y rhai a’i hedwyn yr wyt yn amlygu eu hyder hwynt.
18Yn gyfiawn yr wyt ti yn barnu, gan feistroli dy allu; a thrwy lawer o arbed yr wyt ti yn ein llywodraethu ni: oblegid y mae gennyt ti allu pan fynnech.
19A thi a ddysgaist dy bobl wrth y cyfryw weithredoedd, fod yn rhaid i’r cyfiawn fod yn gu ganddo ddyn: a thi a wnaethost dy blant yn dda eu gobaith, oherwydd i ti roddi edifeirwch am bechodau.
20Canys os mor ystyriol y cystuddiaist ti elynion dy blant, y rhai a ddylent farwolaeth, gan roddi amser a modd i newidio oddi wrth ddrygioni,
21A pha ofal y bernaist ti dy blant dy hun, i rieni pa rai y rhoddaist ti lwon ac amodau o addewidion da?
22Am hynny lle yr wyt ti yn ein ceryddu ni, yr ydwyt yn ffrewyllu ein gelynion ni yn ddengmil mwy; fel pan farnom ni, y gallom feddwl am dy ddaioni di; a phan y’n barner, ddisgwyl am drugaredd.
23Am yr hwn beth y rhoddaist ti ddialedd ar y rhai a fuant fyw’n anghyfiawn mewn buchedd angall, trwy eu ffiaidd weithredoedd eu hun.
24Canys hwy a gyfeiliornasant yn ffordd cyfeiliorni ymhell, gan gymryd y rhai oedd amharchus ymysg anifeiliaid eu gelynion yn lle duwiau, wedi eu twyllo fel plant angall.
25Am hynny yr anfonaist ti iddynt hwy, megis i blant direswm, dy farnedigaeth i’w gwatwar.
26Y rhai ni chymerant rybudd trwy’r gwatwarus gerydd hyn, a gânt brofi addas farnedigaeth Duw.
27Canys wele, oblegid y rhai yr oeddynt hwy yn grwgnach wrth ddioddef drostynt, sef dros y rhai a dybiasent hwy eu bod yn dduwiau, pan welsant eu cosbi yn y rhai hynny, hwy a gydnabuant mai gwir Dduw oedd yr hwn a wadasent hwy o’r blaen eu bod yn ei adnabod: ac am hynny y daeth dygn ddamnedigaeth arnynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.