Job 10 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Y mae fy enaid yn blino ar fy einioes: arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf.

2Dywedaf wrth DDUW, Na farn fi yn euog; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi.

3Ai da i ti orthrymu, fel y diystyrit waith dy ddwylo, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol?

4Ai llygaid o gnawd sydd i ti? ai fel y gwêl dyn y gweli di?

5A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dyn? a ydyw dy flynyddoedd di fel dyddiau gŵr,

6Pan geisi fy anwiredd, a phan ymofynni am fy mhechod?

7Ti a wyddost nad ydwyf annuwiol; ac nid oes a waredo o’th law di.

8Dy ddwylo di a’m gweithiasant, ac a’m cydluniasant o amgylch; eto fy nifetha yr wyt.

9Cofia, atolwg, mai fel clai y gwnaethost fi; ac a ddygi di fi i’r pridd drachefn?

10Oni thywelltaist fi fel llaeth; ac oni cheulaist fi fel caws?

11Ti a’m gwisgaist i â chroen, ac â chnawd; ti a’m diffynnaist i ag esgyrn ac â gïau.

12Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi, a’th ymgeledd a gadwodd fy ysbryd.

13A’r pethau hyn a guddiaist ti yn dy galon: gwn fod hyn gyda thi.

14Os pechaf, ti a’m gwyli, ac ni’m glanhei oddi wrth fy anwiredd.

15Os ydwyf annuwiol, gwae fi; ac os cyfiawn ydwyf, er hynny ni chodaf fy mhen: yr ydwyf yn llawn o warthrudd, am hynny gwêl fy nghystudd;

16Canys cynyddu y mae: fy hela yr ydwyt fel llew creulon: er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi.

17Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i’m herbyn, ac yn amlhau dy ddigofaint wrthyf; cyfnewidiau a rhyfel sydd i’m herbyn.

18Paham gan hynny y dygaist fi allan o’r groth? O na buaswn farw, ac na’m gwelsai llygad!

19Mi a fuaswn megis pe na buaswn, a myfi a ddygasid o’r bru i’r bedd.

20Onid ychydig yw fy nyddiau? paid gan hynny, gad im lonydd, fel yr ymgysurwyf ychydig;

21Cyn myned ohonof lle ni ddychwelwyf, i dir tywyllwch a chysgod angau;

22Tir tywyllwch fel y fagddu, a chysgod angau, a heb drefn; lle y mae y goleuni fel y tywyllwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help