1Jwdas hefyd a glybu sôn am y Rhufeinwyr, eu bod hwy yn alluog, ac yn wŷr cedyrn, ac yn fodlon i dderbyn y rhai a ymgysylltai â hwynt, ac yn gwneuthur heddwch â phawb a’r oedd yn cyrchu atynt;
2A’u bod yn alluog o nerth: a heblaw hyn, eu rhyfeloedd hwy, a’r gwrolaeth a wnaethant ymysg y Galatiaid, a fynegwyd iddynt hwy, ac fel y gorchfygasent hwynt, ac a’u dygasent dan deyrnged;
3A pha bethau a wnaethent hwy yng ngwlad Hispaen, i ennill y mwyngloddiau arian ac aur oedd yno;
4Ac fel y goresgynasent bob lle trwy eu doethineb a’u dioddefgarwch, er pelled fyddai y lle oddi wrthynt hwy, a’r brenhinoedd hefyd y rhai a ddaethai yn eu herbyn hwy o eithaf y ddaear, nes eu gorchfygu a’u taro yn drwm iawn; ac fel yr oedd y lleill yn talu teyrnged iddynt hwy bob blwyddyn;
5Ac fel y gorchfygasent hwy mewn rhyfel Philip, a Pherseus brenin y Macedoniaid, ac eraill y rhai a ymgodasai yn eu herbyn, ac y gorchfygasent hwynt;
6Fel y gorchfygasent hwy Antiochus y brenin mawr o Asia, yr hwn a fynnai ymladd â hwynt, ac oedd ganddo chwe ugain o eliffantiaid, a gwŷr meirch, a cherbydau, a llu mawr iawn;
7Ac fel y daliasent ef yn fyw, ac yr ordeiniasent iddo ef, ac i’r rhai a deyrnasai ar ei ôl ef, dalu teyrnged fawr iddynt hwy, a rhoddi meichiau ar yr hyn a gytunesid arno;
8Fel y dygasent oddi arno ef wlad India, a Media, a Lydia, ei wledydd gorau ef, ac y rhoddasent hwy y rhai hynny i’r brenin Eumenes;
9A pha fodd y rhoddasai’r Groegwyr eu bryd ar ddyfod a’u difetha hwynt;
10Ac y danfonasent hwythau, pan wybuant, gapten yn eu herbyn hwy, ac y lladdasent lawer ohonynt, ac y caethgludasent eu gwragedd hwy a’u plant, ac yr ysbeiliasent hwy, ac y cymerasant feddiant yn eu tir hwy, ac y distrywiasent eu dinasoedd cedyrn, ac a’u darostyngasent i fod yn gaethwyr iddynt hyd y dydd heddiw;
11Ac fel y darfuasai iddynt ddistrywio a chaethiwo teyrnasoedd ac ynysoedd eraill, y rhai a fuasai un amser yn eu gwrthwynebu hwy;
12Ac fel yr oeddynt yn cadw cydymdeithas â’u cydymdeithion, ac â’r rhai oedd â’u hyder arnynt hwy, ac fel yr enillasent deyrnasoedd ymhell ac yn agos, a bod pawb yn eu hofni hwy a’r a glywsai sôn amdanynt:
13Oblegid pwy bynnag a chwenychent hwy eu cymorth i deyrnasu, y rhai hynny oedd yn teyrnasu; a thrachefn, y neb a fynnent, a ddiswyddent: ac fel yr oeddynt wedi dyfod i oruchafiaeth mawr:
14Ac er hyn i gyd nad oedd un ohonynt yn gwisgo coron, nac yn ymddilladu â phorffor, i’w fawrygu felly;
15Ond gwneuthur ohonynt dŷ cyngor iddynt eu hunain, lle yr oedd tri chant ac ugain yn eistedd beunydd mewn cyngor, yn ymgynghori yn wastadol dros y bobl, i’w cadw hwynt mewn trefn dda:
16Ac fel yr oeddynt yn ymddiried i un gŵr bob blwyddyn i’w llywodraethu, ac i arglwyddiaethu ar eu holl wlad hwy, i’r hwn yr oedd pawb yn ufudd; ac nad oedd na chenfigen nac eiddigedd yn eu plith.
17Yna Jwdas a ddewisodd Eupolemus fab Ioan, fab Accas, a Jason fab Eleasar, ac a’u danfonodd hwy i Rufain i wneuthur cyfamod caredigrwydd a chydymdeithas â hwynt;
18Ac i ddeisyf arnynt dynnu’r iau oddi arnynt hwy: oblegid yr oeddynt yn gweled fod brenhiniaeth y Groegwyr yn gorthrymu Israel â chaethiwed.
19A hwy a aethant i Rufain; ac yr oedd y ffordd yn bell iawn; ac aethant i mewn i dŷ’r cyngor, lle y llefarasant ac y dywedasant,
20Jwdas Macabeus a’i frodyr a phobl yr Iddewon, a’n danfonodd ni atoch, i ymrwymo mewn amodau cydymdeithas a heddwch â chwychwi, ac i chwithau ein sgrifennu ninnau yn gydymdeithion ac yn garedigion i chwithau.
21Ac yr oedd y chwedl yma yn rhyngu bodd i’r Rhufeiniaid yn dda iawn.
22A dyma gopi o’r ysgrifen a argraffodd y cyngor mewn llechau pres, ac a anfonasant hwy i Jerwsalem, fel y byddai yno gyda hwy yn goffadwriaeth o’r heddwch ac o’r gydymdeithas.
23Bid yn dda i’r Rhufeinwyr, ac i bobl yr Iddewon, ar fôr ac ar dir yn dragywydd: a phell fyddo’r cleddyf a’r gelyn oddi wrthynt.
24O daw rhyfel yn gyntaf yn erbyn y Rhufeinwyr, neu yn erbyn neb o’u cydymdeithion, trwy eu holl arglwyddiaeth hwy,
25Pobl yr Iddewon a’u cymhorthant hwy, fel y gofynno’r amser, ag ewyllys eu calon:
26Ac ni roddant ddim i’r rhai a ryfelant yn eu herbyn hwynt, ac ni chynorthwyant hwynt nac â bwyd, nac ag arian, nac â llongau, fel y rhyngodd bodd i’r Rhufeinwyr: eu hamodau a gadwant heb gymryd dim am hynny.
27Yn yr un ffunud, o digwydd i bobl yr Iddewon yn gyntaf gaffael rhyfel, y Rhufeinwyr a ymladdant gyda hwy o ewyllys da, fel y gosoder yr amser iddynt:
28Ac ni roddant i elynion yr Iddewon na bwyd, nac arfau, nac arian, na llongau, fel y gwelodd y Rhufeinwyr yn dda; eithr hwy a gadwant yr amodau hyn, a hynny yn ddidwyll.
29Yn ôl y geiriau hyn y gwnaeth y Rhufeinwyr amod â phobl yr Iddewon.
30Ac os ewyllysia’r un o’r ddwy blaid o hyn allan chwanegu at, neu dynnu oddi wrth, y geiriau hyn, gwnânt wrth eu hewyllys: a pha beth bynnag a chwanegant atynt, neu a dynnant oddi wrthynt, hynny a saif.
31Ac am y drwg y mae Demetrius yn ei wneuthur i’r Iddewon, ni a sgrifenasom ato ef, gan ddywedyd, Paham y gwnaethost ti dy iau yn drom ar ein caredigion ni a’n cydymdeithion yr Iddewon?
32Od achwynant hwy rhagot ti drachefn, nyni a wnawn gyfiawnder iddynt, ac a ymladdwn â thi ar fôr ac ar dir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.