Eseia 63 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Pwy yw hwn yn dyfod o Edom, yn goch ei ddillad o Bosra? hwn sydd hardd yn ei wisg, yn ymdaith yn amlder ei rym? Myfi, yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder, ac wyf gadarn i iacháu.

2Paham yr ydwyt yn goch dy ddillad, a’th wisgoedd fel yr hwn a sathrai mewn gwinwryf?

3Sethrais y gwinwryf fy hunan, ac o’r bobl nid oedd un gyda mi; canys mi a’u sathraf hwynt yn fy nig, ac a’u mathraf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a’u gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad, a’m holl wisgoedd a lychwinaf.

4Canys dydd dial sydd yn fy nghalon, a blwyddyn fy ngwaredigion a ddaeth.

5Edrychais hefyd, ac nid oedd gynorthwywr; rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr: yna fy mraich fy hun a’m hachubodd, a’m llidiowgrwydd a’m cynhaliodd.

6A mi a sathraf y bobl yn fy nig, ac a’u meddwaf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a’u cadernid a ddisgynnaf i’r llawr.

7Cofiaf drugareddau yr ARGLWYDD, a moliant DUW, yn ôl yr hyn oll a roddodd DUW i ni, ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel, yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei drugareddau.

8Canys efe a ddywedodd, Diau fy mhobl ydynt hwy, meibion ni ddywedant gelwydd; felly efe a aeth yn Iachawdwr iddynt.

9Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd, ac angel ei gynddrychioldeb a’u hachubodd hwynt; yn ei gariad ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe a’u dygodd hwynt, ac a’u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt.

10Hwythau oeddynt wrthryfelgar, ac a ofidiasant ei Ysbryd sanctaidd ef: am hynny y trodd efe yn elyn iddynt, ac yr ymladdodd yn eu herbyn.

11Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt, Moses a’i bobl, gan ddywedyd, Mae yr hwn a’u dygodd hwynt i fyny o’r môr, gyda bugail ei braidd? mae yr hwn a osododd ei Ysbryd sanctaidd o’i fewn ef?

12Yr hwn a’u tywysodd hwynt â deheulaw Moses, ac â’i ogoneddus fraich, gan hollti y dyfroedd o’u blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun enw tragwyddol?

13Yr hwn a’u harweiniodd hwynt trwy y dyfnderau, fel march yn yr anialwch, fel na thramgwyddent?

14Fel y disgyn anifail i’r dyffryn, y gwna Ysbryd yr ARGLWYDD iddo orffwys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur i ti enw gogoneddus.

15Edrych o’r nefoedd a gwêl o annedd dy sancteiddrwydd a’th ogoniant: mae dy sêl a’th gadernid, lluosowgrwydd dy dosturiaethau a’th drugareddau tuag ataf fi? a ymataliasant?

16Canys ti yw ein Tad ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na’n cydnebydd Israel: ti, ARGLWYDD, yw ein Tad ni, ein Gwaredydd; dy enw sydd erioed.

17Paham, ARGLWYDD, y gwnaethost i ni gyfeiliorni allan o’th ffyrdd? ac y caledaist ein calonnau oddi wrth dy ofn? Dychwel er mwyn dy weision, llwythau dy etifeddiaeth.

18Dros ychydig ennyd y meddiannodd dy bobl sanctaidd: ein gwrthwynebwyr a fathrasant dy gysegr di.

19Nyni ydym eiddot ti: erioed ni buost yn arglwyddiaethu arnynt hwy; ac ni elwid dy enw arnynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help