Genesis 9 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1 DUW hefyd a fendithiodd Noa a’i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch a lluosogwch, a llenwch y ddaear.

2Eich ofn hefyd a’ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a’r hyn oll a ymsymudo ar y ddaear, ac ar holl bysgod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.

3Pob ymsymudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim.

4Er hynny na fwytewch gig ynghyd â’i einioes, sef ei waed.

5Ac yn ddiau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynnaf fi: o law pob bwystfil y gofynnaf ef; ac o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynnaf einioes dyn.

6A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau, oherwydd ar ddelw DUW y gwnaeth efe ddyn.

7Ond chwychwi, ffrwythwch ac amlhewch epiliwch ar y ddaear, a lluosogwch ynddi.

8A DUW a lefarodd wrth Noa, ac wrth ei feibion gydag ef, gan ddywedyd,

9Ac wele myfi, ie myfi, ydwyf yn cadarnhau fy nghyfamod â chwi, ac â’ch had ar eich ôl chwi;

10Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyda chwi, â’r ehediaid, â’r anifeiliaid, ac â phob bwystfil y tir gyda chwi, o’r rhai oll sydd yn myned allan o’r arch, hyd holl fwystfilod y ddaear.

11A mi a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi, ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr dilyw, ac ni bydd dilyw mwy i ddifetha’r ddaear.

12A DUW a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw a’r y sydd gyda chwi, tros oesoedd tragwyddol:

13Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a’r ddaear.

14A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmwl.

15A mi a gofiaf fy nghyfamod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddilyw mwy, i ddifetha pob cnawd.

16A’r bwa a fydd yn y cwmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio’r cyfamod tragwyddol rhwng DUW a phob peth byw, o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.

17A DUW a ddywedodd wrth Noa, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.

18A meibion Noa y rhai a ddaeth allan o’r arch, oedd Sem, Cham, a Jaffeth; a Cham oedd dad Canaan.

19Y tri hyn oedd feibion Noa: ac o’r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear.

20A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan:

21Ac a yfodd o’r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng nghanol ei babell.

22A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i’w ddau frawd allan.

23A chymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn, ac a’i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a’u hwynebau yn ôl, fel na welent noethni eu tad.

24A Noa a ddeffrôdd o’i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo.

25Ac efe a ddywedodd, Melltigedig fyddo Canaan; gwas gweision i’w frodyr fydd.

26Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.

27DUW a helaetha ar Jaffeth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.

28A Noa a fu fyw wedi’r dilyw dri chan mlynedd a deng mlynedd a deugain.

29Felly holl ddyddiau Noa oedd naw can mlynedd a deng mlynedd a deugain; ac efe a fu farw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help