Y Salmau 70 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 70I’r Pencerdd, Salm Dafydd i goffa.

1O DDUW, prysura i’m gwaredu; brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth.

2Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi.

3Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant, Ha, ha.

4Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger DUW.

5Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; O DDUW, brysia ataf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti, O ARGLWYDD; na hir drig.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help