1A phan oedd Dafydd yn hen, ac yn llawn o ddyddiau, efe a osododd Solomon ei fab yn frenin ar Israel.
2Ac efe a gynullodd holl dywysogion Israel, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid.
3A’r Lefiaid a gyfrifwyd o fab deng mlwydd ar hugain, ac uchod: a’u nifer hwy wrth eu pennau, bob yn ŵr, oedd onid dwy fil deugain.
4O’r rhai yr oedd pedair mil ar hugain i oruchwylio ar waith tŷ yr ARGLWYDD; ac yn swyddogion, ac yn farnwyr, chwe mil:
5A phedair mil yn borthorion, a phedair mil yn moliannu yr ARGLWYDD â’r offer a wnaethwn i, ebe Dafydd, i foliannu.
6A dosbarthodd Dafydd hwynt yn ddosbarthiadau ymysg meibion Lefi, sef Gerson, Cohath, a Merari.
7O’r Gersoniaid yr oedd Laadan a Simei.
8Meibion Laadan; y pennaf Jehiel, a Setham, a Joel, tri.
9Meibion Simei; Selomith, a Hasiel, a Haran, tri. Y rhai hyn oedd bennau-cenedl Laadan.
10Meibion Simei hefyd oedd, Jahath, Sina, a Jeus, a Bereia. Dyma bedwar mab Simei.
11A Jahath oedd bennaf, a Sisa yn ail: ond Jeus a Bereia nid oedd nemor o feibion iddynt; am hynny yr oeddynt hwy yn un cyfrif wrth dŷ eu tad.
12Meibion Cohath; Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel, pedwar.
13Meibion Amram oedd, Aaron a Moses; ac Aaron a neilltuwyd i sancteiddio y cysegr sancteiddiolaf, efe a’i feibion byth, i arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD, i’w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd.
14A Moses gŵr DUW, ei feibion ef a alwyd yn llwyth Lefi.
15Meibion Moses oedd, Gersom ac Elieser.
16O feibion Gersom; Sebuel oedd y pennaf.
17A meibion Elieser oedd, Rehabia y cyntaf. Ac i Elieser nid oedd meibion eraill; ond meibion Rehabia a amlhasant yn ddirfawr.
18O feibion Ishar; Selomith y pennaf.
19O feibion Hebron; Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd.
20O feibion Ussiel; Micha y cyntaf, a Jeseia yr ail.
21Meibion Merari oedd, Mahli a Musi. Meibion Mahli; Eleasar a Chis.
22A bu farw Eleasar, a meibion nid oedd iddo ef, ond merched; a meibion Cis eu brodyr a’u priododd hwynt.
23Meibion Musi; Mahli, ac Eder a Jerimoth, tri.
24Dyma feibion Lefi, yn ôl tŷ eu tadau, pennau eu cenedl, wrth eu rhifedi, dan nifer eu henwau wrth eu pennau, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith i wasanaeth tŷ yr ARGLWYDD, o fab ugain mlwydd ac uchod.
25Canys dywedodd Dafydd, ARGLWYDD DDUW Israel a roddes lonyddwch i’w bobl, i aros yn Jerwsalem byth;
26A hefyd i’r Lefiaid: ni ddygant mwyach y tabernacl, na dim o’i lestri, i’w wasanaeth ef.
27Canys yn ôl geiriau diwethaf Dafydd y cyfrifwyd meibion Lefi, o fab ugain mlwydd ac uchod:
28A’u gwasanaeth hwynt oedd i fod wrth law meibion Aaron yng ngweinidogaeth tŷ yr ARGLWYDD, yn y cynteddau, ac yn y celloedd, ac ym mhuredigaeth pob sancteiddbeth, ac yng ngwaith gweinidogaeth tŷ DDUW;
29Yn y bara gosod hefyd, ac ym mheilliaid y bwyd-offrwm, ac yn y teisennau croyw, yn y radell hefyd, ac yn y badell ffrio, ac ym mhob mesur a meidroldeb:
30Ac i sefyll bob bore i foliannu ac i ogoneddu yr ARGLWYDD, felly hefyd brynhawn:
31Ac i offrymu pob offrwm poeth i’r ARGLWYDD ar y Sabothau, ar y newyddloerau, ac ar y gwyliau gosodedig, wrth rifedi, yn ôl y ddefod sydd arnynt yn wastadol gerbron yr ARGLWYDD:
32Ac i gadw goruchwyliaeth pabell y cyfarfod, a goruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth meibion Aaron eu brodyr, yng ngwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.