1 Samuel 15 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i i’th eneinio di yn frenin ar ei bobl, sef ar Israel: ac yn awr gwrando ar lais geiriau yr ARGLWYDD.

2Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD y lluoedd; Cofiais yr hyn a wnaeth Amalec i Israel, y modd y gosododd efe i’w erbyn ar y ffordd, pan ddaeth efe i fyny o’r Aifft.

3Dos yn awr, a tharo Amalec, a dinistria yr hyn oll sydd ganddo, ac nac eiriach ef; ond lladd hwynt, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, yn ych ac yn oen, yn gamel ac yn asyn.

4A Saul a gynullodd y bobl, ac a’u cyfrifodd hwynt yn Telaim, dau can mil o wŷr traed, a deng mil o wŷr Jwda.

5A Saul a ddaeth hyd ddinas i Amalec, ac a gynllwynodd yn y dyffryn.

6Dywedodd Saul hefyd wrth y Ceneaid, Cerddwch, ciliwch, ewch i waered o fysg yr Amaleciaid; rhag i mi eich distrywio chwi gyda hwynt: herwydd ti a wnaethost drugaredd â holl feibion Israel, pan ddaethant i fyny o’r Aifft. A’r Ceneaid a ymadawsant o fysg yr Amaleciaid.

7A Saul a drawodd yr Amaleciaid o Hafila, ffordd y delych di i Sur, yr hon sydd ar gyfer yr Aifft.

8Ac a ddaliodd Agag brenin yr Amaleciaid yn fyw, ac a laddodd yr holl bobl â min y cleddyf.

9Ond Saul a’r bobl a arbedasant Agag, a’r gorau o’r defaid, a’r ychen, a’r brasaf o’r ŵyn, a’r hyn oll ydoedd dda, ac ni ddistrywient hwynt: a phob peth gwael a salw, hwnnw a ddifrodasant hwy.

10Yna y bu gair yr ARGLWYDD wrth Samuel, gan ddywedyd,

11Edifar yw gennyf osod Saul yn frenin: canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i, ac ni chyflawnodd fy ngeiriau. A bu ddrwg gan Samuel; ac efe a lefodd ar yr ARGLWYDD ar hyd y nos.

12A phan gyfododd Samuel yn fore i gyfarfod Saul, mynegwyd i Samuel, gan ddywedyd, Daeth Saul i Carmel; ac wele, efe a osododd iddo le, efe a amgylchodd hefyd, ac a dramwyodd, ac a aeth i waered i Gilgal.

13A Samuel a ddaeth at Saul. A Saul a ddywedodd wrtho ef, Bendigedig fyddych di gan yr ARGLWYDD: mi a gyflewnais air yr ARGLWYDD.

14A dywedodd Samuel, Beth ynteu yw brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau, a beichiad y gwartheg yr hwn yr ydwyf yn ei glywed?

15A Saul a ddywedodd, Oddi ar yr Amaleciaid y dygasant hwy: canys y bobl a arbedodd y defaid gorau, a’r ychen, i aberthu i’r ARGLWYDD dy DDUW; a’r rhan arall a ddifrodasom ni.

16Yna y dywedodd Samuel wrth Saul, Aros, a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr ARGLWYDD wrthyf fi neithiwr. Yntau a ddywedodd wrtho, Llefara.

17A Samuel a ddywedodd, Onid pan oeddit fychan yn dy olwg dy hun, y gwnaed di yn ben ar lwythau Israel, ac yr eneiniodd yr ARGLWYDD di yn frenin ar Israel?

18A’r ARGLWYDD a’th anfonodd di i daith, ac a ddywedodd, Dos, a difroda y pechaduriaid, yr Amaleciaid, ac ymladd i’w herbyn, nes eu difa hwynt.

19Paham gan hynny na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, eithr troaist at yr anrhaith, a gwnaethost ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD?

20A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Yn wir mi a wrandewais ar lais yr ARGLWYDD, ac a rodiais yn y ffordd y’m hanfonodd yr ARGLWYDD iddi, a dygais Agag brenin Amalec, ac a ddifrodais yr Amaleciaid.

21Ond y bobl a gymerth o’r ysbail, ddefaid a gwartheg, blaenion y ddifrodaeth, i aberthu i’r ARGLWYDD dy DDUW yn Gilgal.

22A Samuel a ddywedodd, A yw ewyllys yr ARGLWYDD ar boethoffrymau, neu ebyrth, megis ar wrando ar lais yr ARGLWYDD? Wele, gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na braster hyrddod.

23Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth. Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr ARGLWYDD, yntau a’th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin.

24A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Pechais: canys troseddais air yr ARGLWYDD, a’th eiriau dithau; oherwydd i mi ofni y bobl, a gwrando ar eu llais hwynt.

25Ond yn awr maddau, atolwg, fy mhechod, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr ARGLWYDD.

26A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ni ddychwelaf gyda thi; canys bwriaist ymaith air yr ARGLWYDD, a’r ARGLWYDD a’th fwriodd dithau ymaith o fod yn frenin ar Israel.

27A phan drodd Samuel i fyned ymaith, efe a ymaflodd yng nghwr ei fantell ef; a hi a rwygodd.

28A Samuel a ddywedodd wrtho, Yr ARGLWYDD a rwygodd frenhiniaeth Israel oddi wrthyt ti heddiw, ac a’i rhoddes i gymydog i ti, gwell na thydi.

29A hefyd, Cadernid Israel ni ddywed gelwydd, ac nid edifarha: canys nid dyn yw efe, i edifarhau.

30Yna y dywedodd Saul, Pechais: anrhydedda fi, atolwg, yn awr gerbron henuriaid fy mhobl, a cherbron Israel, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr ARGLWYDD dy DDUW.

31Felly Samuel a ddychwelodd ar ôl Saul: a Saul a addolodd yr ARGLWYDD.

32Yna y dywedodd Samuel, Cyrchwch ataf fi Agag brenin yr Amaleciaid. Ac Agag a ddaeth ato ef yn hoyw. Ac Agag a ddywedodd, Chwerwder marwolaeth yn ddiau a aeth ymaith.

33A Samuel a ddywedodd, Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ymysg gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag gerbron yr ARGLWYDD yn Gilgal.

34Yna Samuel a aeth i Rama; a Saul a aeth i fyny i’w dŷ yn Gibea Saul.

35Ac nid ymwelodd Samuel mwyach â Saul hyd ddydd ei farwolaeth; ond Samuel a alarodd am Saul: ac edifar fu gan yr ARGLWYDD osod Saul yn frenin ar Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help