Y Salmau 4 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 4I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.

1Gwrando fi pan alwyf, O DDUW fy nghyfiawnder: mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf; trugarha wrthyf, ac erglyw fy ngweddi.

2O feibion dynion, pa hyd y trowch fy ngogoniant yn warth? yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd? Sela.

3Ond gwybyddwch i’r ARGLWYDD neilltuo y duwiol iddo ei hun: yr ARGLWYDD a wrendy pan alwyf arno.

4Ofnwch, ac na phechwch: ymddiddenwch â’ch calon ar eich gwely, a thewch. Sela.

5Aberthwch ebyrth cyfiawnder; a gobeithiwch yn yr ARGLWYDD.

6Llawer sydd yn dywedyd, Pwy a ddengys i ni ddaioni? ARGLWYDD, dyrcha arnom lewyrch dy wyneb.

7Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy na’r amser yr amlhaodd eu hŷd a’u gwin hwynt.

8Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti, ARGLWYDD, yn unig a wnei i mi drigo mewn diogelwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help