2 Ioan 1 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes a’i phlant, y rhai yr wyf fi yn eu caru yn y gwirionedd; ac nid myfi yn unig, ond pawb hefyd a adnabuant y gwirionedd;

2Er mwyn y gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni yn dragywydd.

3Bydded gyda chwi ras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.

4Bu lawen iawn gennyf i mi gael o’th blant di rai yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn gan y Tad.

5Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti, arglwyddes, nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o’r dechreuad, garu ohonom ein gilydd.

6A hyn yw’r cariad: bod i ni rodio yn ôl ei orchmynion ef. Hwn yw’r gorchymyn; Megis y clywsoch o’r dechreuad, fod i chwi rodio ynddo.

7Oblegid y mae twyllwyr lawer wedi dyfod i mewn i’r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd. Hwn yw’r twyllwr a’r anghrist.

8Edrychwch arnoch eich hunain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr.

9Pob un a’r sydd yn troseddu, ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo ef. Yr hwn sydd yn aros yn nysgeidiaeth Crist, hwnnw y mae’r Tad a’r Mab ganddo.

10Od oes neb yn dyfod atoch, a heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dŷ, ac na ddywedwch, Duw yn rhwydd, wrtho:

11Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog o’i weithredoedd drwg ef.

12Er bod gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu atoch, nid oeddwn yn ewyllysio ysgrifennu â phapur ac inc: eithr gobeithio yr ydwyf ddyfod atoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn.

13Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy annerch. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help