Exodus 32 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o’r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a’n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono.

2A dywedodd Aaron wrthynt, Tynnwch y clustlysau aur sydd wrth glustiau eich gwragedd, a’ch meibion, a’ch merched, a dygwch ataf fi.

3A’r holl bobl a dynasant y clustlysau aur oedd wrth eu clustiau, ac a’u dygasant at Aaron.

4Ac efe a’u cymerodd o’u dwylo, ac a’i lluniodd â chŷn, ac a’i gwnaeth yn llo tawdd: a hwy a ddywedasant, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft.

5A phan ei gwelodd Aaron, efe a adeiladodd allor ger ei fron ef: ac Aaron a gyhoeddodd, ac a ddywedodd, Y mae gŵyl i’r ARGLWYDD yfory.

6A hwy a godasant yn fore drannoeth, ac a offrymasant boethoffrymau, ac a ddygasant aberthau hedd: a’r bobl a eisteddasant i fwyta ac i yfed, ac a godasant i fyny i chwarae.

7A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cerdda, dos i waered: canys ymlygrodd dy bobl a ddygaist i fyny o dir yr Aifft.

8Buan y ciliasant o’r ffordd a orchmynnais iddynt: gwnaethant iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddygasant i fyny o wlad yr Aifft.

9Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt.

10Am hynny yn awr gad i mi lonydd, fel yr enynno fy llid yn eu herbyn, ac y difethwyf hwynt: a mi a’th wnaf di yn genhedlaeth fawr.

11A Moses a ymbiliodd gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ddywedodd, Paham, ARGLWYDD, yr enynna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aifft, trwy nerth mawr, a llaw gadarn?

12Paham y caiff yr Eifftiaid lefaru, gan ddywedyd, Mewn malais y dygodd efe hwynt allan, i’w lladd yn y mynyddoedd, ac i’w difetha oddi ar wyneb y ddaear? Tro oddi wrth angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennyt y drwg a amcenaist i’th bobl.

13Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt, Mi a amlhaf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i’ch had chwi, a hwy a’i hetifeddant byth.

14Ac edifarhaodd ar yr ARGLWYDD am y drwg a ddywedasai efe y gwnâi i’w bobl.

15A Moses a drodd, ac a ddaeth i waered o’r mynydd, a dwy lech y dystiolaeth yn ei law: y llechau a ysgrifenasid o’u dau du; hwy a ysgrifenasid o bob tu.

16A’r llechau hynny oedd o waith DUW: yr ysgrifen hefyd oedd ysgrifen DUW yn ysgrifenedig ar y llechau.

17A phan glywodd Josua sŵn y bobl yn bloeddio, efe a ddywedodd wrth Moses, Y mae sŵn rhyfel yn y gwersyll.

18Yntau a ddywedodd, Nid llais bloeddio am oruchafiaeth, ac nid llais gweiddi am golli’r maes; ond sŵn canu a glywaf fi.

19A bu, wedi dyfod ohono yn agos i’r gwersyll, iddo weled y llo a’r dawnsiau: ac enynnodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o’i ddwylo ac a’u torrodd hwynt islaw y mynydd.

20Ac efe a gymerodd y llo a wnaethent hwy, ac a’i llosgodd â thân, ac a’i malodd yn llwch, ac a’i taenodd ar wyneb y dwfr, ac a’i rhoddes i’w yfed i feibion Israel.

21A dywedodd Moses wrth Aaron, Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, pan ddygaist arnynt bechod mor fawr?

22A dywedodd Aaron, Nac enynned digofaint fy arglwydd: ti a adwaenost y bobl, mai ar ddrwg y maent.

23Canys dywedasant wrthyf, Gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a’n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono.

24A dywedais wrthynt, I’r neb y mae aur, tynnwch ef: a hwy a’i rhoddasant i mi: a mi a’i bwriais yn tân, a daeth y llo hwn allan.

25A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth, (canys Aaron a’u noethasai hwynt, i’w gwaradwyddo ymysg eu gelynion;)

26Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll, ac a ddywedodd, Pwy sydd ar du’r ARGLWYDD? deued ataf fi. A holl feibion Lefi a ymgasglasant ato ef.

27Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun, ac ewch, cyniweiriwch o borth i borth trwy’r gwersyll, a lleddwch bob un ei frawd, a phob un ei gyfaill, a phob un ei gymydog.

28A meibion Lefi a wnaethant yn ôl gair Moses: a chwympodd o’r bobl y dydd hwnnw ynghylch tair mil o wŷr.

29Canys dywedasai Moses, Cysegrwch eich llaw heddiw i’r ARGLWYDD, bob un ar ei fab, ac ar ei frawd; fel y rhodder heddiw i chwi fendith.

30A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl, Chwi a bechasoch bechod mawr: ac yn awr mi a af i fyny at yr ARGLWYDD; ond odid mi a wnaf gymod dros eich pechod chwi.

31A Moses a ddychwelodd at yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Och! pechodd y bobl hyn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur.

32Ac yn awr, os maddeui eu pechod; ac os amgen, dilea fi, atolwg, allan o’th lyfr a ysgrifennaist.

33A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Pwy bynnag a bechodd i’m herbyn, hwnnw a ddileaf allan o’m llyfr.

34Am hynny dos yn awr, arwain y bobl i’r lle a ddywedais wrthyt: wele, fy angel a â o’th flaen di: a’r dydd yr ymwelwyf, yr ymwelaf â hwynt am eu pechod.

35A’r ARGLWYDD a drawodd y bobl, am iddynt wneuthur y llo a wnaethai Aaron.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help