Y Salmau 45 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 45I’r Pencerdd ar Sosannim, i feibion Cora, Maschil, Cân cariadau.

1Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan.

2Tecach ydwyt na meibion dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y’th fendithiodd DUW yn dragywydd.

3Gwregysa dy gleddyf ar dy glun, O Gadarn, â’th ogoniant a’th harddwch.

4Ac yn dy harddwch marchoga yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd, a lledneisrwydd, a chyfiawnder; a’th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy.

5Pobl a syrthiant danat; oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin.

6Dy orsedd di, O DDUW, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di.

7Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y’th eneiniodd DUW, sef dy DDUW di, ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion.

8Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o’r palasau ifori, â’r rhai y’th lawenhasant.

9Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir.

10Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad.

11A’r Brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef.

12Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb.

13Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi.

14Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti.

15Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin.

16Dy feibion fydd yn lle dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir.

17Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a’th foliannant byth ac yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help