1Ac wedi i Esra weddïo a chyffesu, gan wylo a syrthio i lawr o flaen tŷ DDUW, tyrfa fawr o Israel a ymgasglasant ato ef, yn wŷr, ac yn wragedd, ac yn blant: canys y bobl a wylasant ag wylofain mawr.
2Yna y llefarodd Sechaneia mab Jehiel, o feibion Elam, ac a ddywedodd wrth Esra, Ni a bechasom yn erbyn ein DUW, ac a gytaliasom â gwragedd dieithr o bobl y wlad: eto yn awr y mae gobaith i Israel am hyn.
3Yn awr, gan hynny, gwnawn gyfamod â’n DUW, ar fwrw allan yr holl wragedd, a’u plant, wrth gyngor yr ARGLWYDD, a’r rhai a ofnant orchmynion ein DUW: a gwneler yn ôl y gyfraith.
4Cyfod; canys arnat ti y mae y peth: a ni a fyddwn gyda thi: ymwrola, a gwna.
5Yna y cyfododd Esra, ac a dyngodd benaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid, a holl Israel, ar wneuthur yn ôl y peth hyn. A hwy a dyngasant.
6Yna y cyfododd Esra o flaen tŷ DDUW, ac a aeth i ystafell Johanan mab Eliasib: a phan ddaeth yno, ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr; canys galaru yr oedd am gamwedd y gaethglud.
7A chyhoeddasant yn Jwda a Jerwsalem, ar i holl feibion y gaethglud ymgasglu i Jerwsalem;
8A phwy bynnag ni ddelai o fewn tridiau, yn ôl cyngor y penaethiaid a’r henuriaid, efe a gollai ei holl olud, ac yntau a ddidolid oddi wrth gynulleidfa y rhai a gaethgludasid.
9Felly holl wŷr Jwda a Benjamin a ymgasglasant i Jerwsalem o fewn tridiau: hynny oedd y nawfed mis, ar yr ugeinfed dydd o’r mis; a’r holl bobl a eisteddasant yn heol tŷ DDUW, yn crynu o achos y peth hyn, ac o achos y glawogydd.
10Ac Esra yr offeiriad a gyfododd, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a bechasoch, ac a gytaliasoch â gwragedd dieithr, gan ychwanegu ar bechod Israel.
11Ac yn awr rhoddwch foliant i ARGLWYDD DDUW eich tadau, a gwnewch ei ewyllys ef; ac ysgerwch oddi wrth bobl y tir, ac oddi wrth y gwragedd dieithr.
12A holl dyrfa Israel a atebasant, ac a ddywedasant â llef uchel, Yn ôl dy air di y mae arnom ni wneuthur.
13Eithr y bobl sydd lawer, a’r amser yn lawog, ac ni ellir sefyll allan, ac nid gwaith un diwrnod na dau ydyw: canys pechasom yn ddirfawr yn y peth hyn.
14Safed yn awr ein penaethiaid o’r holl dyrfa, a deued y rhai o’n dinasoedd a gytaliasant â gwragedd dieithr, ar amseroedd gosodedig, a henuriaid pob dinas, a’u barnwyr gyda hwynt, nes troi dicter ein DUW oddi wrthym am y peth hyn.
15Yn unig Jonathan mab Asahel, a Jahaseia mab Ticfa, a osodwyd ar hyn: Mesulam hefyd a Sabbethai y Lefiad a’u cynorthwyasant hwy.
16A meibion y gaethglud a wnaethant felly. Ac Esra yr offeiriad, a’r gwŷr oedd bennau-cenedl tŷ eu tadau, a hwynt oll wrth eu henwau, a neilltuwyd, ac a eisteddasant ar y dydd cyntaf o’r degfed mis, i ymofyn am y peth hyn.
17A hwy a wnaethant ben â’r holl wŷr a gytaliasent â gwragedd dieithr, erbyn y dydd cyntaf o’r mis cyntaf.
18A chafwyd o feibion yr offeiriaid, y rhai a gytaliasent â gwragedd dieithr: o feibion Jesua mab Josadac, a’i frodyr; Maaseia, ac Elieser, a Jarib, a Gedaleia.
19A hwy a roddasant eu dwylo ar fwrw allan eu gwragedd; a chan iddynt bechu, a offrymasant hwrdd o’r praidd dros eu camwedd.
20Ac o feibion Immer; Hanani, a Sebadeia.
21Ac o feibion Harim; Maaseia, ac Eleia, a Semaia, a Jehiel, ac Usseia.
22Ac o feibion Pasur; Elioenai, Maaseia, Ismael, Nethaneel, Josabad, ac Elasa.
23Ac o’r Lefiaid; Josabad, a Simei, a Chelaia, (hwnnw yw Celita,) Pethaheia, Jwda, ac Elieser.
24Ac o’r cantorion; Eliasib: ac o’r porthorion; Salum, a Thelem, ac Uri.
25Ac o Israel: o feibion Paros; Rameia, a Jeseia, a Malcheia, a Miamin, ac Eleasar, a Malcheia, a Benaia.
26Ac o feibion Elam; Mataneia, Sechareia, a Jehiel, ac Abdi, a Jeremoth, ac Eleia.
27Ac o feibion Sattu; Elioenai, Eliasib, Mataneia, a Jeremoth, a Sabad, ac Asisa.
28Ac o feibion Bebai; Jehohanan, Hananeia, Sabbai, ac Athlai.
29Ac o feibion Bani; Mesulam, Maluch, ac Adaia, Jasub, a Seal, a Ramoth.
30Ac o feibion Pahath-moab; Adna, a Chelal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Besaleel, a Binnui, a Manasse.
31Ac o feibion Harim; Elieser, Isia, Malcheia, Semaia, Simeon,
32Benjamin, Maluch, a Semareia.
33O feibion Hasum; Matenai, Matatha, Sabad, Eliffelet, Jeremai, Manasse, a Simei.
34O feibion Bani; Maadai, Amram, ac Uel,
35Benaia, Bedeia, Celu,
36Faneia, Meromoth, Eliasib,
37Mataneia, Matenai, a Jaasau,
38A Bani, a Binnui, Simei,
39A Selemeia, a Nathan, ac Adaia,
40Machnadebai, Sasai, Sarai,
41Asareel, a Selemeia, a Semareia,
42Salum, Amareia, a Joseff.
43O feibion Nebo; Jeiel, Matitheia, Sabad, Sebina, Jadua, a Joel, a Benaia.
44Y rhai hyn oll a gymerasent wragedd dieithr: ac yr oedd i rai ohonynt wragedd a ddygasai blant iddynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.