1Deuwch, canwn i’r ARGLWYDD: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd.
2Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau.
3Canys yr ARGLWYDD sydd DDUW mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
4Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo.
5Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir.
6Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD ein Gwneuthurwr.
7Canys efe yw ein DUW ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd,
8Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch:
9Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd.
10Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd:
11Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i’m gorffwysfa.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
