2 Samuel 10 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac ar ôl hyn y bu i frenin meibion Ammon farw, a Hanun ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

2Yna y dywedodd Dafydd, Mi a wnaf garedigrwydd â Hanun mab Nahas, megis y gwnaeth ei dad ef garedigrwydd â mi. A Dafydd a anfonodd gyda’i weision i’w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon.

3A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun eu harglwydd, Wyt ti yn tybied mai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd, oherwydd iddo ddanfon cysurwyr atat ti? onid er mwyn chwilio’r ddinas, a’i throedio, a’i difetha, yr anfonodd Dafydd ei weision atat ti?

4Yna Hanun a gymerth weision Dafydd, ac a eilliodd hanner eu barfau hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, hyd eu cluniau, ac a’u gollyngodd hwynt ymaith.

5Pan fynegwyd hyn i Dafydd, efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt; canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Arhoswch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau chwi; ac yna dychwelwch.

6A meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Dafydd; a meibion Ammon a anfonasant ac a gyflogasant y Syriaid o Beth-rehob, a’r Syriaid o Soba, ugain mil o wŷr traed, a chan frenin Maacha fil o wŷr, ac o Istob ddeuddeng mil o wŷr.

7A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn.

8A meibion Ammon a ddaethant, ac a luniaethasant ryfel wrth ddrws y porth: a’r Syriaid o Soba, a Rehob, ac o Istob, a Maacha, oedd o’r neilltu yn y maes.

9Pan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a ymfyddinodd yn erbyn y Syriaid.

10A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd, i’w byddino yn erbyn meibion Ammon.

11Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di i mi yn gynhorthwy; ond os meibion Ammon fyddant drech na thi, yna y deuaf i’th gynorthwyo dithau.

12Bydd bybyr, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein DUW: a gwnaed yr ARGLWYDD yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.

13A nesaodd Joab, a’r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel: a hwy a ffoesant o’i flaen ef.

14A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid, hwythau a ffoesant o flaen Abisai, ac a aethant i’r ddinas. A dychwelodd Joab oddi wrth feibion Ammon, ac a ddaeth i Jerwsalem.

15A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a ymgynullasant ynghyd.

16A Hadareser a anfonodd, ac a ddug y Syriaid oedd o’r tu hwnt i’r afon: a hwy a ddaethant i Helam, a Sobach tywysog llu Hadareser o’u blaen.

17A phan fynegwyd i Dafydd hynny, efe a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth i Helam: a’r Syriaid a ymfyddinasant yn erbyn Dafydd, ac a ymladdasant ag ef.

18A’r Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a Dafydd a laddodd o’r Syriaid, wŷr saith gant o gerbydau, a deugain mil o wŷr meirch: ac efe a drawodd Sobach tywysog eu llu hwynt, fel y bu efe farw yno.

19A phan welodd yr holl frenhinoedd oedd weision i Hadareser, eu lladd hwynt o flaen Israel, hwy a heddychasant ag Israel, ac a’u gwasanaethasant hwynt. A’r Syriaid a ofnasant gynorthwyo meibion Ammon mwyach.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help