Y Salmau 119 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 119ALEFF

1Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr ARGLWYDD.

2Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon.

3Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef.

4Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal.

5O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau!

6Yna ni’m gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion.

7Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.

8Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol.

BETH

9Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.

10A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion.

11Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn.

12Ti, ARGLWYDD, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau.

13A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau.

14Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud.

15Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.

16Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.

GIMEL

17Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.

18Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di.

19Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion.

20Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser.

21Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion.

22Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg: oblegid dy dystiolaethau di a gedwais.

23Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i’m herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau.

24A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr.

DALETH

25Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air.

26Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau.

27Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.

28Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air.

29Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith.

30Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen.

31Glynais wrth dy dystiolaethau: O ARGLWYDD, na’m gwaradwydda.

32Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.

HE

33Dysg i mi, O ARGLWYDD, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd.

34Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon.

35Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys.

36Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd-dra.

37Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd.

38Sicrha dy air i’th was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di.

39Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.

40Wele, awyddus ydwyf i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.

FAU

41Deued i mi dy drugaredd, ARGLWYDD, a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air.

42Yna yr atebaf i’m cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais.

43Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais.

44A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd.

45Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf.

46Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf.

47Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais.

48A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.

SAIN

49Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio.

50Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a’m bywhaodd i.

51Y beilchion a’m gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di.

52Cofiais, O ARGLWYDD, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais.

53Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.

54Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod.

55Cofiais dy enw, ARGLWYDD, y nos; a chedwais dy gyfraith.

56Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di.

CHETH

57O ARGLWYDD, fy rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau.

58Ymbiliais â’th wyneb â’m holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air.

59Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di.

60Brysiais, ac nid oedais gadw dy orchmynion.

61Minteioedd yr annuwiolion a’m hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di.

62Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder.

63Cyfaill ydwyf fi i’r rhai oll a’th ofnant, ac i’r rhai a gadwant dy orchmynion.

64Llawn yw y ddaear o’th drugaredd, O ARGLWYDD: dysg i mi dy ddeddfau.

TETH

65Gwnaethost yn dda â’th was, O ARGLWYDD, yn ôl dy air.

66Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais.

67Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.

68Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau.

69Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon.

70Cyn frased â’r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di.

71Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau.

72Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.

IOD

73Dy ddwylo a’m gwnaethant, ac a’m lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion.

74Y rhai a’th ofnant a’m gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di.

75Gwn, ARGLWYDD, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist.

76Bydded, atolwg, dy drugaredd i’m cysuro, yn ôl dy air i’th wasanaethwr.

77Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch.

78Cywilyddier y beilchion, canys gwnânt gam â mi yn ddiachos: ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di.

79Troer ataf fi y rhai a’th ofnant di, a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau.

80Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau; fel na’m cywilyddier.

CAFF

81Diffygiodd fy enaid am dy iachawdwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl.

82Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddywedyd, Pa bryd y’m diddeni?

83Canys ydwyf fel costrel mewn mwg; ond nid anghofiais dy ddeddfau.

84Pa nifer yw dyddiau dy was? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a’m herlidiant?

85Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.

86Dy holl orchmynion ydynt wirionedd: ar gam y’m herlidiasant; cymorth fi.

87Braidd na’m difasant ar y ddaear; minnau ni adewais dy orchmynion.

88Bywha fi yn ôl dy drugaredd; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.

LAMED

89Yn dragywydd, O ARGLWYDD, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd.

90Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif.

91Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw: canys dy weision yw pob peth.

92Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd.

93Byth nid anghofiaf dy orchmynion: canys â hwynt y’m bywheaist.

94Eiddot ti ydwyf, cadw fi: oherwydd dy orchmynion a geisiais.

95Yr rhai annuwiol a ddisgwyliasant amdanaf i’m difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi.

96Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.

MEM

97Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd.

98A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi.

99Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.

100Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di.

101Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.

102Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist.

103Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn.

104Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.

NUN

105Llusern yw dy air i’m traed, a llewyrch i’m llwybr.

106Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.

107Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O ARGLWYDD, yn ôl dy air.

108Atolwg, ARGLWYDD, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau.

109Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith.

110Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion.

111Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth: oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt.

112Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.

SAMECH

113Meddyliau ofer a gaseais: a’th gyfraith di a hoffais.

114Fy lloches a’m tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf.

115Ciliwch oddi wrthyf, rai drygionus: canys cadwaf orchmynion fy NUW.

116Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith.

117Cynnal fi, a dihangol fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol.

118Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt.

119Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach: am hynny yr hoffais dy dystiolaethau.

120Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.

AIN

121Gwneuthum farn a chyfiawnder: na ad fi i’m gorthrymwyr.

122Mechnïa dros dy was er daioni: na ad i’r beilchion fy ngorthrymu.

123Fy llygaid a ballasant am dy iachawdwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder.

124Gwna i’th was yn ôl dy drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau.

125Dy was ydwyf fi; pâr i mi ddeall, fel y gwypwyf dy dystiolaethau.

126Amser yw i’r ARGLWYDD weithio: diddymasant dy gyfraith di.

127Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth.

128Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.

PE

129Rhyfedd yw dy dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt.

130Agoriad dy eiriau a rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar.

131Agorais fy ngenau, a dyheais: oblegid awyddus oeddwn i’th orchmynion di.

132Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf, yn ôl dy arfer i’r rhai a garant dy enw.

133Cyfarwydda fy nghamre yn dy air: ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf.

134Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion.

135Llewyrcha dy wyneb ar dy was: a dysg i mi dy ddeddfau.

136Afonydd o ddyfroedd a redant o’m llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.

TSADI

137Cyfiawn ydwyt ti, O ARGLWYDD, ac uniawn yw dy farnedigaethau.

138Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn.

139Fy sêl a’m difaodd; oherwydd i’m gelynion anghofio dy eiriau di.

140Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi.

141Bychan ydwyf fi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion.

142Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a’th gyfraith sydd wirionedd.

143Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch.

144Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.

COFF

145Llefais â’m holl galon; clyw fi, O ARGLWYDD: dy ddeddfau a gadwaf.

146Llefais arnat; achub fi, a chadwaf dy dystiolaethau.

147Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais.

148Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di.

149Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: ARGLWYDD, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.

150Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di.

151Tithau, ARGLWYDD, wyt agos; a’th holl orchmynion sydd wirionedd.

152Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd.

RESH

153Gwêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith.

154Dadlau fy nadl, a gwared fi: bywha fi yn ôl dy air.

155Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.

156Dy drugareddau, ARGLWYDD, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.

157Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.

158Gwelais y troseddwyr, a gresynais; am na chadwent dy air di.

159Gwêl fy mod yn hoffi dy orchmynion: ARGLWYDD, bywha fi yn ôl dy drugarowgrwydd.

160Gwirionedd o’r dechreuad yw dy air; a phob un o’th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd.

SCHIN

161Tywysogion a’m herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di.

162Llawen ydwyf fi oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer.

163Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a’th gyfraith di a hoffais.

164Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau.

165Heddwch mawr fydd i’r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.

166Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O ARGLWYDD; a gwneuthum dy orchmynion.

167Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt.

168Cedwais dy orchmynion a’th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.

TAU

169Nesaed fy ngwaedd o’th flaen, ARGLWYDD: gwna i mi ddeall yn ôl dy air.

170Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air.

171Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau.

172Fy nhafod a ddatgan dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder.

173Bydded dy law i’m cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais.

174Hiraethais, O ARGLWYDD, am dy iachawdwriaeth; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch.

175Bydded byw fy enaid, fel y’th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi.

176Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help