1Wedi gwneuthur yr amodau hyn, Lysias a aeth at y brenin, a’r Iddewon oeddynt ynghylch eu hwsmonaeth.
2Ond o’r llywodraethwyr ar amryw leoedd, Timotheus, ac Apolonius mab Genneus, hefyd Hieronymus, a Demoffon, ac heblaw y rhain, Nicanor pennaeth Cyprus, ni ddioddefent iddynt orffwys a byw yn llonydd.
3Gwŷr Jope hefyd a ddibenasant y weithred annuwiol; hwy a ddymunasant ar yr Iddewon oedd yn trigo gyda hwynt, ar iddynt hwy, a’u gwragedd, a’u plant, fyned i ysgraff a baratoesent hwy, megis pe buasai heb fod creulondeb calon yn eu herbyn hwynt.
4Felly yn ôl cyfundeb y ddinas, hwy a fuant fodlon i’r peth, fel gwŷr yn dymuno heddwch, ac heb ddrwgdybied dim; ond wedi iddynt fyned i’r dyfnder, hwy a foddasant ohonynt nid llai na dau cant o wŷr.
5Pan glybu Jwdas wneuthur creulondeb yn erbyn gwŷr ei wlad, efe a orchmynnodd i’r gwŷr oedd gydag ef eu gwneuthur eu hunain yn barod.
6Ac wedi galw ar Dduw, y Barnwr cyfiawn, efe a ddaeth yn erbyn lladdwyr ei frodyr, ac a losgodd y porthladd o hyd nos, ac a losgodd yr ysgraffau, ac a laddodd y rhai a ffoesent yno.
7A phan oedd y dref wedi ei chau o amgylch, efe a aeth yn ei ôl megis ar fedr dyfod eilwaith, a diwreiddio allan yr holl rai o ddinas Jope.
8Ond pan ddeallodd efe fod y Jamniaid ar fedr dwyn i ben yr unrhyw beth yn erbyn yr Iddewon oedd yn trigo gyda hwynt,
9Efe a ddaeth am ben y Jamniaid hefyd o hyd nos, ac a losgodd y porthladd a’r llongau, yn gymaint ag y gwelwyd llewyrch y tân hyd yn Jerwsalem, ddau gant a deugain ystad oddi yno.
10A phan aethant oddi yno naw ystad, yn eu taith yn erbyn Timotheus, fe a ruthrodd o’r Arabiaid arno ef, nid llai na phum mil o wŷr traed, a phum cant o wŷr meirch.
11A hwy a ymladdasant yn dost: eithr rhyfelwyr Jwdas trwy gymorth Duw a gawsant y fuddugoliaeth; felly y Nomadiaid o Arabia wedi eu gorchfygu a ddeisyfasant ar Jwdas roi ei ddeheulaw iddynt, dan addo rhoi iddo anifeiliaid, a bod yn fuddiol iddo mewn pethau eraill.
12A Jwdas yn tybied y byddent fuddiol iddo mewn llawer o bethau, a ganiataodd iddynt heddwch: a phan ysgydwasant ddwylo, hwy a ymadawsant i’w pebyll.
13Efe a ddaeth hefyd am ben rhyw ddinas wedi ei chadarnhau â phont, a’i chwmpasu â chaerau, yr hon a gyfanheddid gan lawer o genhedloedd cymysgedig, yr hon a elwid Caspis.
14Ond y rhai o’i mewn yn hyderu yng nghadernid eu caerau, ac yn eu stôr o fwydydd, a fuant anniesgeulus, ac a ymserthasant â’r rhai oedd gyda Jwdas, ac a’u cablasant hwy, ac a ddywedasant eiriau anghyfreithlon eu dywedyd.
15Am hynny Jwdas a’r rhai oedd gydag ef, gan alw ar Benadur mawr y byd, yr hwn heb na hyrddod, nac offer rhyfel, a fwriodd i lawr Jericho yn amser Josua, a ruthrasant yn awchus yn erbyn y caerau,
16Ac a orchfygasant y ddinas trwy ewyllys Duw, ac a wnaethant laddfa anguriol; yn gymaint â bod llyn gerllaw, yr hwn oedd ddau stad o led, wedi colli gwaed ynddo, hyd onid oedd yn llawn.
17Hwy a aethant oddi yno saith gant a deg a deugain o stadiau, ac a ddaethant i Characa, at yr Iddewon a elwir Tubieni.
18Ond yn wir ni chawsent afael ar Timotheus yn y lleoedd hynny: oblegid efe a aethai ymaith oddi yno heb ddwyn dim i ben; ond efe a adawsai lu mewn rhyw amddiffynfa, yn gryf iawn dros ben.
19Eto Dositheus a Sosipater, y rhai oedd o gapteiniaid Macabeus, a aethant rhagddynt, ac a laddasant o’r rhai a adawsai Timotheus yn yr amddiffynfa, fwy na deng mil o wŷr.
20Macabeus a osododd ei lu yn finteioedd, ac a’u gosododd hwynt ar y minteioedd, ac a aeth yn erbyn Timotheus, yr hwn yr oedd yn ei gylch gant ac ugain mil o wŷr traed, a dwy fil a phum cant o wŷr meirch.
21Ond Timotheus, pan gafodd wybodaeth o ddyfodiad Jwdas, a ddanfonodd y gwragedd, a’r plant, a’r glud arall, i’r amddiffynfa a elwir Carnion; oblegid y lle hwnnw oedd anodd ei gwmpasu, a dyfod i mewn iddo, o achos y cyfyngleoedd o bob tu.
22Eithr pan ymddangosodd blaen cad Jwdas, y gelynion, wedi eu taro ag ofn a dychryn, trwy ymddangosiad yr un sydd yn gweled pob peth, a ffoesant am yr einioes, gan redeg y naill yma, a’r llall acw, fel y cawsant yn fynych eu clwyfo gan eu pobl eu hunain, a’u gwanu â blaen eu cleddyfau eu hunain.
23Am hynny yr erlidiodd Jwdas yn dostach, ac y gwanodd efe y rhai halogedig hynny, hyd oni laddodd efe ohonynt ynghylch deng mil ar hugain o wŷr.
24Hefyd Timotheus ei hunan a syrthiodd yn nwylo Dositheus a Sosipater, a thrwy fawr ddichell a ddeisyfodd arnynt ei ollwng ef yn rhydd yn fyw, am fod dan ei law ef dadau llawer o’r Iddewon, a brodyr rhai ohonynt, ac y digwyddai na byddai gyfrif am y rhai hynny os lleddid ef.
25Felly pan roesai efe iddynt sicrwydd trwy laweroedd o eiriau, ar iddo ef eu rhyddhau hwynt heb niwed, yn ôl y cytundeb, hwy a’i gollyngasant ef yn rhydd er mwyn iachawdwriaeth eu brodyr.
26Yna’r aeth Macabeus yn erbyn Carnion, a theml Atargatis, ac a laddodd yno bum mil ar hugain o wŷr.
27Ac wedi iddo eu gyrru i ffoi, a’u dinistrio hwynt, efe a symudodd ei lu yn erbyn Effron, tref gadarn, yn yr hon yr oedd Lysias yn aros, a lliaws mawr o amryw genhedloedd; a’r gwŷr ieuainc grymus a gadwasant y caerau, ac a’u hamddiffynasant yn bybyr; lle yr oedd hefyd fawr barodrwydd o offer rhyfel a phicellau.
28Ond wedi iddynt alw ar yr hollalluog Dduw yr hwn sydd â’i nerth yn gwanhau grym ei elynion, hwy a enillasant y ddinas, ac a laddasant o’r rhai oedd ynddi bum mil ar hugain.
29Ac oddi yno yr aethant i Scythopolis, yr hon sydd oddi wrth Jerwsalem chwe chant ystad.
30Ond wedi i’r Iddewon oedd yno yn preswylio dystiolaethu mor dda oedd ewyllys y Scythopoliaid tuag atynt, ac mor garedig a fuasent iddynt yn amseroedd eu blinfyd,
31Hwy a roesant ddiolch iddynt, gan ddeisyf arnynt fod yn gymwynasgar i’w cenedl rhag llaw: ac felly am fod yn gyfagos ŵyl yr wythnosau, hwy a ddaethant i Jerwsalem.
32Ac wedi’r ŵyl a elwir Pentecost, hwy a aethant yn erbyn Gorgias capten Idumea,
33Yr hwn a ddaeth allan â thair mil o wŷr traed, ac â phedwar cant o wŷr meirch.
34Ac fe ddigwyddodd, wrth ymladd ohonynt ynghyd, ladd ambell un o’r Iddewon.
35Ar yr hwn amser Dositheus, un o lu Bacenor, yr hwn oedd ar farch, ac yn ŵr grymus, a ddaliodd Gorgias, ac a’i llusgodd ef yn rymus erbyn ei gochl; ond ac efe â’i ewyllys ar ddal y gŵr melltigedig hwnnw yn fyw, fe ddaeth arno ef ryw ŵr march o Thracia, ac a dorrodd ymaith ei ysgwydd ef, fel y dihangodd Gorgias i Marisa.
36A phan oedd y rhai oedd o amgylch yn ddiffygiol i ymladd ychwaneg, Jwdas a alwodd ar yr Arglwydd, ar iddo ef ei ddangos ei hun yn helpwr iddynt, ac yn flaenor i’r gad.
37Ac ar hynny efe a ddechreuodd yn ei iaith ei hun, ac a ganodd salmau â llef uchel; a chan ruthro yn ddisymwth am ben rhyfelwyr Gorgias, efe a’u gyrrodd hwy i ffoi.
38Felly Jwdas, dan gasglu ei lu, a ddaeth i ddinas Odolam: a phan ddaeth y seithfed dydd, fel yr oedd yr arfer, hwy a’u glanhasant eu hunain, ac a gadwasant y dydd Saboth yn y lle hwnnw.
39A’r ail dydd, fel yr oedd anghenraid, Jwdas a’i lu a ddaethant i ddwyn ymaith gyrff y rhai a laddasid, ac i’w claddu hwynt gyda’u cyfneseifiaid, ym meddau eu tadau.
40Yr awron dan beisiau pob un o’r rhai a laddasid, hwy a gawsant bethau wedi eu cysegru i eilunod y Jamniaid, yr hyn sy waharddedig i’r Iddewon yn ôl y gyfraith: yna fe welodd pawb mai hyn oedd yr achos paham y lladdesid hwy.
41Yna pawb a roes ddiolch i’r Arglwydd y Barnwr cyfiawn, yr hwn a wnaethai y pethau cuddiedig yn amlwg;
42Ac a droesant at eu gweddi, ac a ddeisyfasant arno ef ddileu yn gwbl y pechod a wnaethent. A Jwdas ardderchog a gynghorodd i’r gynulleidfa ymgadw yn lân oddi wrth bechod, gan iddynt weled â’u llygaid y pethau a ddaethai i ben am bechod y rhai a laddasid,
43Ac wedi iddo ddarpar treth o ddwy fil o ddrachmau o arian, efe a ddanfonodd i Jerwsalem i offrymu aberth dros bechod; gan wneuthur yn dda ac yn onest, o achos ei fod yn meddwl am yr atgyfodiad:
44Oblegid oni buasai iddo ef obeithio atgyfodiad y rhai a laddesid, afraid ac ofer fuasai weddïo dros y meirw:
45A hefyd am iddo ddeall fod ffafr yng nghadw i’r rhai a fuasai feirw yn dduwiol; (sanctaidd a duwiol oedd y meddwl:) trwy hyn efe a wnaeth gymod dros y meirw, fel y rhyddheid hwy oddi wrth bechod.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.