1 Samuel 10 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef, ac a’i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr ARGLWYDD a’th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth?

2Pan elych di heddiw oddi wrthyf, yna y cei ddau ŵr wrth fedd Rahel, yn nherfyn Benjamin, yn Selsa: a hwy a ddywedant wrthyt, Cafwyd yr asynnod yr aethost i’w ceisio: ac wele, dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynnod, a gofalu y mae amdanoch chwi, gan ddywedyd, Beth a wnaf am fy mab?

3Yna yr ei di ymhellach oddi yno, ac y deui hyd wastadedd Tabor: ac yno y’th gyferfydd triwyr yn myned i fyny at DDUW i Bethel; un yn dwyn tri o fynnod, ac un yn dwyn tair torth o fara, ac un yn dwyn costrelaid o win.

4A hwy a gyfarchant well i ti, ac a roddant i ti ddwy dorth o fara; y rhai a gymeri o’u llaw hwynt.

5Ar ôl hynny y deui i fryn DUW, yn yr hwn y mae sefyllfa y Philistiaid: a phan ddelych yno i’r ddinas, ti a gyfarfyddi â thyrfa o broffwydi yn disgyn o’r uchelfa, ac o’u blaen hwynt nabl, a thympan, a phibell, a thelyn; a hwythau yn proffwydo.

6Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaw arnat ti; a thi a broffwydi gyda hwynt, ac a droir yn ŵr arall.

7A phan ddelo yr argoelion hyn i ti, gwna fel y byddo yr achos: canys DUW sydd gyda thi.

8A dos i waered o’m blaen i Gilgal: ac wele, mi a ddeuaf i waered atat ti, i offrymu offrymau poeth, ac i aberthu ebyrth hedd: aros amdanaf saith niwrnod, hyd oni ddelwyf atat, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych.

9A phan drodd efe ei gefn i fyned oddi wrth Samuel, DUW a roddodd iddo galon arall: a’r holl argoelion hynny a ddaethant y dydd hwnnw i ben.

10A phan ddaethant yno i’r bryn, wele fintai o broffwydi yn ei gyfarfod ef: ac ysbryd DUW a ddaeth arno yntau, ac efe a broffwydodd yn eu mysg hwynt.

11A phawb a’r a’i hadwaenai ef o’r blaen a edrychasant; ac wele efe gyda’r proffwydi yn proffwydo. Yna y bobl a ddywedasant bawb wrth ei gilydd, Beth yw hyn a ddaeth i fab Cis? A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?

12Ac un oddi yno a atebodd, ac a ddywedodd, Eto pwy yw eu tad hwy? Am hynny yr aeth yn ddihareb, A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?

13Ac wedi darfod iddo broffwydo, efe a ddaeth i’r uchelfa.

14Ac ewythr Saul a ddywedodd wrtho ef, ac wrth ei lanc ef, I ba le yr aethoch? Ac efe a ddywedodd, I geisio’r asynnod: a phan welsom nas ceid, ni a ddaethom at Samuel.

15Ac ewythr Saul a ddywedodd, Mynega, atolwg, i mi, beth a ddywedodd Samuel wrthych chwi.

16A Saul a ddywedodd wrth ei ewythr, Gan fynegi mynegodd i ni fod yr asynnod wedi eu cael. Ond am chwedl y frenhiniaeth, yr hwn a ddywedasai Samuel, nid ynganodd efe wrtho.

17A Samuel a alwodd y bobl ynghyd at yr ARGLWYDD i Mispa;

18Ac a ddywedodd wrth feibion Israel, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a ddygais i fyny Israel o’r Aifft, ac a’ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law yr holl deyrnasoedd, a’r rhai a’ch gorthryment chwi.

19A chwi heddiw a wrthodasoch eich DUW, yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd, a’ch helbul; ac a ddywedasoch wrtho ef, Nid felly; eithr gosod arnom ni frenin. Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr ARGLWYDD wrth eich llwythau, ac wrth eich miloedd.

20A Samuel a barodd i holl lwythau Israel nesáu: a daliwyd llwyth Benjamin.

21Ac wedi iddo beri i lwyth Benjamin nesáu yn ôl eu teuluoedd, daliwyd teulu Matri; a Saul mab Cis a ddaliwyd: a phan geisiasant ef, nis ceid ef.

22Am hynny y gofynasant eto i’r ARGLWYDD, a ddeuai y gŵr yno eto. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Wele efe yn ymguddio ymhlith y dodrefn.

23A hwy a redasant, ac a’i cyrchasant ef oddi yno. A phan safodd yng nghanol y bobl, yr oedd efe o’i ysgwydd i fyny yn uwch na’r holl bobl.

24A dywedodd Samuel wrth yr holl bobl. A welwch chwi yr hwn a ddewisodd yr ARGLWYDD, nad oes neb tebyg iddo ymysg yr holl bobl? A’r holl bobl a floeddiasant, ac a ddywedasant, Byw fyddo’r brenin.

25Yna Samuel a draethodd gyfraith y deyrnas wrth y bobl, ac a’i hysgrifennodd mewn llyfr, ac a’i gosododd gerbron yr ARGLWYDD. A Samuel a ollyngodd ymaith yr holl bobl, bob un i’w dŷ.

26A Saul hefyd a aeth i’w dŷ ei hun i Gibea; a byddin o’r rhai y cyffyrddasai DUW â’u calon, a aeth gydag ef.

27Ond meibion Belial a ddywedasant, Pa fodd y gwared hwn ni? A hwy a’i dirmygasant ef, ac ni ddygasant anrheg iddo ef. Eithr ni chymerodd efe arno glywed hyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help