1Clyw fy llef, O DDUW, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn.
2Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd:
3Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon:
4I saethu y perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant.
5Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a’u gwêl hwynt?
6Chwiliant allan anwireddau; gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn.
7Eithr DUW a’u saetha hwynt; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt.
8Felly hwy a wnânt i’w tafodau eu hun syrthio arnynt: pob un a’u gwelo a gilia.
9A phob dyn a ofna, ac a fynega waith DUW: canys doeth ystyriant ei waith ef.
10Y cyfiawn a lawenycha yn yr ARGLWYDD, ac a obeithia ynddo; a’r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
