1Ac i Jehosaffat yr ydoedd golud ac anrhydedd yn helaeth; ac efe a ymgyfathrachodd ag Ahab.
2Ac ymhen ennyd o flynyddoedd efe a aeth i waered at Ahab i Samaria. Ac Ahab a laddodd ddefaid a gwartheg lawer, iddo ef ac i’r bobl oedd gydag ef, ac a’i hanogodd ef i fyned i fyny gydag ef i Ramoth-gilead.
3Ac Ahab brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat brenin Jwda, A ei di gyda mi i Ramoth-gilead? Yntau a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf fi fel tithau, a’m pobl i fel dy bobl dithau, a byddwn gyda thi yn y rhyfel.
4Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw â gair yr ARGLWYDD.
5Am hynny brenin Israel a gasglodd o’r proffwydi bedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A awn ni yn erbyn Ramoth-gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, Dos i fyny; canys DUW a’i dyry yn llaw y brenin.
6Ond Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i’r ARGLWYDD eto mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef?
7A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â’r ARGLWYDD: ond y mae yn gas gennyf fi ef: canys nid yw yn proffwydo i mi ddaioni, ond drygioni erioed: efe yw Michea mab Imla. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly.
8A brenin Israel a alwodd ar un o’i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura Michea mab Imla.
9A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi eu gwisgo mewn brenhinol wisgoedd, eistedd yr oeddynt mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria; a’r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt.
10A Sedeceia mab Cenaana a wnaethai iddo ei hun gyrn heyrn, ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, A’r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt.
11A’r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, Dos i fyny i Ramoth-gilead, a ffynna: canys yr ARGLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin.
12A’r gennad a aethai i alw Michea, a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele eiriau y proffwydi yn unair yn dda i’r brenin: bydded gan hynny, atolwg, dy air dithau fel un o’r rhai hynny, a dywed y gorau.
13A Michea a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hyn a ddywedo fy NUW, hynny a lefaraf fi.
14A phan ddaeth efe at y brenin, y brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth-gilead, neu a beidiaf fi? Dywedodd yntau, Ewch i fyny, a ffynnwch, a rhoddir hwynt yn eich llaw chwi.
15A’r brenin a ddywedodd wrtho, Pa sawl gwaith y’th dynghedaf di, na lefarech wrthyf fi ond gwirionedd yn enw yr ARGLWYDD?
16Yna efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel yn wasgaredig ar y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i’w dŷ ei hun mewn tangnefedd.
17(A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt, na phroffwydai efe ddaioni i mi, ond drygioni?)
18Yntau a ddywedodd, Gan hynny gwrando air yr ARGLWYDD: Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu’r nefoedd yn sefyll ar ei ddeheulaw, ac ar ei law aswy.
19A dywedodd yr ARGLWYDD, Pwy a dwylla Ahab brenin Israel, fel yr elo efe i fyny, ac y syrthio yn Ramoth-gilead? Ac un a lefarodd gan ddywedyd fel hyn, ac arall gan ddywedyd fel hyn.
20Yna ysbryd a aeth allan, ac a safodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Myfi a’i twyllaf ef. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Pa fodd?
21Dywedodd yntau, Myfi a af allan, ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef. A dywedodd yr ARGLWYDD, Twylli, a gorchfygi: dos allan, a gwna felly.
22Ac yn awr wele, yr ARGLWYDD a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn; a’r ARGLWYDD a lefarodd ddrwg amdanat ti.
23Yna Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gern, ac a ddywedodd, Pa ffordd yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi?
24A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio.
25A brenin Israel a ddywedodd, Cymerwch Michea, a dygwch ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab y brenin;
26A dywedwch, Fel hyn y dywedodd y brenin, Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef â bara cystudd, ac â dwfr blinder, nes i mi ddyfod eilwaith mewn heddwch.
27Yna y dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr ARGLWYDD ynof fi. Efe a ddywedodd hefyd, Gwrandewch hyn, yr holl bobl.
28Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth-gilead.
29A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac a af i’r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad. Felly brenin Israel a newidiodd ei ddillad, a hwy a aethant i’r rhyfel.
30A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau y rhai oedd ganddo ef, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig.
31A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat, hwy a ddywedasant, Brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: ond Jehosaffat a waeddodd, a’r ARGLWYDD a’i cynorthwyodd ef, a DUW a’u gyrrodd hwynt oddi wrtho ef.
32A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef.
33A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig: am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o’r gad; canys fe’m clwyfwyd i.
34A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw; a brenin Israel a gynhelid yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid hyd yr hwyr: ac efe a fu farw ynghylch machludiad haul.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.