1Geiriau Agur mab Jace, sef y broffwydoliaeth: y gŵr a lefarodd wrth Ithiel, wrth Ithiel, meddaf, ac Ucal.
2Yn wir yr ydwyf yn ffolach na neb, ac nid oes deall dyn gennyf.
3Ni ddysgais ddoethineb, ac nid oes gennyf wybodaeth y sanctaidd.
4Pwy a esgynnodd i’r nefoedd, neu a ddisgynnodd? pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddyrnau? pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn? pwy a gadarnhaodd holl derfynau y ddaear? beth yw ei enw ef, a pheth yw enw ei fab, os gwyddost?
5Holl air DUW sydd bur: tarian yw efe i’r neb a ymddiriedant ynddo.
6Na ddyro ddim at ei eiriau ef, rhag iddo dy geryddu, a’th gael yn gelwyddog.
7Dau beth yr ydwyf yn eu gofyn gennyt, na omedd hwynt i mi cyn fy marw.
8Tyn ymhell oddi wrthyf wagedd a chelwydd; na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi â’m digonedd o fara.
9Rhag i mi ymlenwi, a’th wadu di, a dywedyd, Pwy yw yr ARGLWYDD? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lladrata, a chymryd enw fy NUW yn ofer.
10Nac achwyn ar was wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a’th gael yn euog.
11Y mae cenhedlaeth a felltithia ei thad, a’i mam ni fendithia.
12Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhawyd oddi wrth ei haflendid.
13Y mae cenhedlaeth, O mor uchel yw ei llygaid! a’i hamrantau a ddyrchafwyd.
14Y mae cenhedlaeth a’i dannedd yn gleddyfau, a’i childdannedd yn gyllyll, i ddifa y tlodion oddi ar y ddaear, a’r anghenus o blith dynion.
15I’r gele y mae dwy ferch, yn llefain, Moes, moes. Tri pheth ni ddiwellir: ie, pedwar peth ni ddywedant byth, Digon:
16Y bedd; y groth amhlantadwy; y ddaear ni ddiwellir â dyfroedd; a’r tân ni ddywed, Digon.
17Llygad yr hwn a watwaro ei dad, ac a ddiystyro ufuddhau ei fam, a dynn cigfrain y dyffryn, a’r cywion eryrod a’i bwyty.
18Tri pheth sydd guddiedig i mi; ie, pedwar peth nid adwaen:
19Ffordd eryr yn yr awyr, ffordd neidr ar graig, ffordd llong yng nghanol y môr, a ffordd gŵr gyda morwyn.
20Felly y mae ffordd merch odinebus; hi a fwyty, ac a sych ei safn, ac a ddywed, Ni wneuthum i anwiredd.
21Oherwydd tri pheth y cynhyrfir y ddaear, ac oherwydd pedwar, y rhai ni ddichon hi eu dioddef:
22Oherwydd gwas pan deyrnaso; ac un ffôl pan lanwer ef o fwyd;
23Oherwydd gwraig atgas pan brioder hi; a llawforwyn a elo yn aeres i’w meistres.
24Y mae pedwar peth bychain ar y ddaear, ac eto y maent yn ddoeth iawn:
25Nid yw y morgrug bobl nerthol, eto y maent yn darparu eu lluniaeth yr haf;
26Y cwningod nid ydynt bobl rymus, eto hwy a wnânt eu tai yn y graig;
27Y locustiaid nid oes brenin iddynt, eto hwy a ânt allan yn dorfeydd;
28Y pryf copyn a ymafaela â’i ddwylo, ac y mae yn llys y brenin.
29Y mae tri pheth a gerddant yn hardd, ie, pedwar peth a rodiant yn weddus:
30Llew cryf ymhlith anifeiliaid, ni thry yn ei ôl er neb;
31Milgi cryf yn ei feingefn, a bwch, a brenin, yr hwn ni chyfyd neb yn ei erbyn.
32Os buost ffôl yn ymddyrchafu, ac os meddyliaist ddrwg, dyro dy law ar dy enau.
33Yn ddiau corddi llaeth a ddwg allan ymenyn, a gwasgu ffroenau a dynn allan waed: felly cymell llid a ddwg allan gynnen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.