2 Cronicl 33 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem:

2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.

3Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd, y rhai a ddinistriasai Heseceia ei dad ef, ac a gyfododd allorau i Baalim, ac a wnaeth lwyni, ac a addolodd holl lu’r nefoedd, ac a’u gwasanaethodd hwynt.

4Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr ARGLWYDD, am yr hwn y dywedasai yr ARGLWYDD, Yn Jerwsalem y bydd fy enw i yn dragywydd.

5Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr ARGLWYDD.

6Ac efe a yrrodd ei feibion trwy’r tân yn nyffryn mab Hinnom, ac a arferodd frud, a hudoliaeth, a chyfareddion, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef.

7Ac efe a osododd y ddelw gerfiedig, y ddelw a wnaethai efe, yn nhŷ DDUW, am yr hwn y dywedasai DUW wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fy enw yn dragywydd.

8Ac ni chwanegaf symud troed Israel oddi ar y tir a ordeiniais i’ch tadau chwi; os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, yn ôl yr holl gyfraith, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, trwy law Moses.

9Felly Manasse a wnaeth i Jwda a thrigolion Jerwsalem gyfeiliorni, a gwneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr ARGLWYDD o flaen meibion Israel.

10Er llefaru o’r ARGLWYDD wrth Manasse, ac wrth ei bobl, eto ni wrandawsant hwy.

11Am hynny y dug yr ARGLWYDD arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria, a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni, ac a’i rhwymasant ef â dwy gadwyn, ac a’i dygasant ef i Babilon.

12A phan oedd gyfyng arno ef, efe a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen DUW ei dadau,

13Ac a weddïodd arno ef: ac efe a fu fodlon iddo, ac a wrandawodd ei ddymuniad ef, ac a’i dug ef drachefn i Jerwsalem i’w frenhiniaeth. Yna y gwybu Manasse mai yr ARGLWYDD oedd DDUW.

14Wedi hyn hefyd efe a adeiladodd y mur oddi allan i ddinas Dafydd, o du’r gorllewin i Gihon, yn y dyffryn, hyd y ddyfodfa i borth y pysgod, ac a amgylchodd Offel, ac a’i cyfododd yn uchel iawn, ac a osododd dywysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caerog o fewn Jwda.

15Ac efe a dynnodd ymaith y duwiau dieithr, a’r ddelw, allan o dŷ yr ARGLWYDD, a’r holl allorau a adeiladasai efe ym mynydd tŷ yr ARGLWYDD, ac yn Jerwsalem, ac a’u taflodd allan o’r ddinas.

16Ac efe a gyweiriodd allor yr ARGLWYDD, ac a aberthodd arni hi ebyrth hedd a moliant; dywedodd hefyd wrth Jwda am wasanaethu ARGLWYDD DDUW Israel.

17Er hynny y bobl oedd eto yn aberthu yn yr uchelfeydd: eto i’r ARGLWYDD eu DUW yn unig.

18A’r rhan arall o hanes Manasse, a’i weddi ef at ei DDUW, a geiriau y gweledyddion a lefarasant wrtho ef yn enw ARGLWYDD DDUW Israel, wele hwynt ymhlith geiriau brenhinoedd Israel.

19Ei weddi ef hefyd, a’r modd y cymododd DUW ag ef, a’i holl bechod ef, a’i gamwedd, a’r lleoedd yr adeiladodd efe ynddynt uchelfeydd, ac y gosododd lwyni, a delwau cerfiedig, cyn ymostwng ohono ef; wele hwynt yn ysgrifenedig ymysg geiriau y gweledyddion.

20Felly Manasse a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn ei dŷ ei hun; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

21Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

22Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaethai Manasse ei dad ef: canys Amon a aberthodd i’r holl ddelwau cerfiedig a wnaethai Manasse ei dad ef, ac a’u gwasanaethodd hwynt.

23Ond nid ymostyngodd efe gerbron yr ARGLWYDD, fel yr ymostyngasai Manasse ei dad ef: eithr yr Amon yma a bechodd fwyfwy.

24A’i weision ef a fradfwriadasant i’w erbyn ef, ac a’i lladdasant ef yn ei dŷ ei hun.

25Ond pobl y wlad a laddasant yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon; a phobl y wlad a urddasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help