Genesis 48 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A bu, wedi’r pethau hyn, ddywedyd o un wrth Joseff, Wele, y mae dy dad yn glaf. Ac efe a gymerth ei ddau fab gydag ef, Manasse ac Effraim.

2A mynegodd un i Jacob, ac a ddywedodd, Wele dy fab Joseff yn dyfod atat. Ac Israel a ymgryfhaodd, ac a eisteddodd ar y gwely.

3A dywedodd Jacob wrth Joseff, DUW Hollalluog a ymddangosodd i mi yn Lus, yng ngwlad Canaan, ac a’m bendithiodd:

4Dywedodd hefyd wrthyf, Wele, mi a’th wnaf yn ffrwythlon, ac a’th amlhaf, ac yn dyrfa o bobloedd y’th wnaf, a rhoddaf y tir hwn i’th had di ar dy ôl di, yn etifeddiaeth dragwyddol.

5Ac yr awr hon, dy ddau fab, y rhai a anwyd i ti yn nhir yr Aifft, cyn fy nyfod atat i’r Aifft, eiddof fi fyddant hwy: Effraim a Manasse fyddant eiddof fi, fel Reuben a Simeon.

6A’th epil, y rhai a genhedlych ar eu hôl hwynt, fyddant eiddot ti dy hun; ar enw eu brodyr y gelwir hwynt yn eu hetifeddiaeth.

7A phan ddeuthum i o Mesopotamia, bu Rahel farw gyda mi yn nhir Canaan, ar y ffordd, pan oedd eto filltir o dir hyd Effrath: a chleddais hi yno ar ffordd Effrath: honno yw Bethlehem.

8A gwelodd Israel feibion Joseff, ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn?

9A Joseff a ddywedodd wrth ei dad, Dyma fy meibion i, a roddodd DUW i mi yma. Yntau a ddywedodd, Dwg hwynt, atolwg, ataf fi, a mi a’u bendithiaf hwynt.

10Llygaid Israel hefyd oedd drymion gan henaint, fel na allai efe weled; ac efe a’u dygodd hwynt ato ef: yntau a’u cusanodd hwynt, ac a’u cofleidiodd.

11Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Ni feddyliais weled dy wyneb; eto, wele, parodd DUW i mi weled dy had hefyd.

12A Joseff a’u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb.

13Cymerodd Joseff hefyd hwynt ill dau, Effraim yn ei law ddeau tua llaw aswy Israel, a Manasse yn ei law aswy tua llaw ddeau Israel; ac a’u nesaodd hwynt ato ef.

14Ac Israel a estynnodd ei law ddeau, ac a’i gosododd ar ben Effraim, (a hwn oedd yr ieuangaf,) a’i law aswy ar ben Manasse: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasse oedd y cynfab.

15Ac efe a fendithiodd Joseff, ac a ddywedodd, DUW, yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, DUW, yr hwn a’m porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn,

16Yr angel yr hwn a’m gwaredodd i oddi wrth bob drwg, a fendithio’r llanciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn lliaws yng nghanol y wlad.

17Pan welodd Joseff osod o’i dad ei law ddeau ar ben Effraim, bu anfodlon ganddo: ac efe a ddaliodd law ei dad, i’w symud hi oddi ar ben Effraim, ar ben Manasse.

18Dywedodd Joseff hefyd wrth ei dad, Nid felly, fy nhad: canys dyma’r cynfab, gosod dy law ddeau ar ei ben ef.

19A’i dad a omeddodd, ac a ddywedodd, Mi a wn, fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd; ond yn wir ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef, a’i had ef fydd yn lliaws o genhedloedd.

20Ac efe a’u bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithia Israel, gan ddywedyd, Gwnaed DUW di fel Effraim, ac fel Manasse. Ac efe a osododd Effraim o flaen Manasse.

21Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Wele fi yn marw; a bydd DUW gyda chwi, ac efe a’ch dychwel chwi i dir eich tadau.

22A mi a roddais i ti un rhan goruwch dy frodyr, yr hon a ddygais o law yr Amoriaid â’m cleddyf ac â’m bwa.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help