Caniad Solomon 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1I ba le yr aeth dy anwylyd, y decaf o’r gwragedd? i ba le y trodd dy anwylyd? fel y ceisiom ef gyda thi.

2Fy anwylyd a aeth i waered i’w ardd, i welyau y perlysiau, i ymborth yn y gerddi, ac i gasglu lili.

3Myfi wyf eiddo fy anwylyd, a’m hanwylyd yn eiddof finnau, yr hwn sydd yn bugeilio ymysg y lili.

4Teg ydwyt ti, fy anwylyd, megis Tirsa, gweddus megis Jerwsalem, ofnadwy megis llu banerog.

5Tro dy lygaid oddi wrthyf, canys hwy a’m gorchfygasant: dy wallt sydd fel diadell o eifr y rhai a ymddangosant o Gilead.

6Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid a ddâi i fyny o’r olchfa, y rhai sydd bob un yn dwyn dau oen, ac heb un yn ddiepil yn eu mysg.

7Dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad.

8Y mae trigain o freninesau, ac o ordderchwragedd bedwar ugain, a llancesau heb rifedi.

9Un ydyw hi, fy ngholomen, fy nihalog; unig ei mam yw hi, dewisol yw hi gan yr hon a’i hesgorodd: y merched a’i gwelsant, ac a’i galwasant yn ddedwydd; y breninesau a’r gordderchwragedd, a hwy a’i canmolasant hi.

10Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog?

11Euthum i waered i’r ardd gnau, i edrych am ffrwythydd y dyffryn, i weled a flodeuasai y winwydden, a flodeuasai y pomgranadau.

12Heb wybod i mi y’m gwnaeth fy enaid megis cerbydau Amminadib.

13Dychwel, dychwel, y Sulamees; dychwel, dychwel, fel yr edrychom arnat. Beth a welwch chwi yn y Sulamees? Megis tyrfa dau lu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help