Datguddiad 15 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac mi a welais arwydd arall yn y nef, mawr, a rhyfeddol; saith angel a chanddynt y saith bla diwethaf: oblegid ynddynt hwy y cyflawnwyd llid Duw.

2Ac mi a welais megis môr o wydr wedi ei gymysgu â thân; a’r rhai oedd yn cael y maes ar y bwystfil, ac ar ei ddelw ef, ac ar ei nod ef, ac ar rifedi ei enw ef, yn sefyll ar y môr gwydr, a thelynau Duw ganddynt.

3A chanu y maent gân Moses gwasanaethwr Duw, a chân yr Oen; gan ddywedyd, Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw Hollalluog; cyfiawn a chywir yw dy ffyrdd di, Brenin y saint.

4Pwy ni’th ofna di, O Arglwydd, ac ni ogonedda dy enw? oblegid tydi yn unig wyt sanctaidd: oblegid yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di; oblegid dy farnau di a eglurwyd.

5Ac ar ôl hyn mi a edrychais, ac wele, yr ydoedd teml pabell y dystiolaeth yn y nef yn agored:

6A daeth y saith angel, y rhai yr oedd y saith bla ganddynt, allan o’r deml, wedi eu gwisgo mewn lliain pur a disglair, a gwregysu eu dwyfronnau â gwregysau aur.

7Ac un o’r pedwar anifail a roddodd i’r saith angel saith ffiol aur, yn llawn o ddigofaint Duw, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.

8A llanwyd y deml o fwg oddi wrth ogoniant Duw, ac oddi wrth ei nerth ef: ac ni allai neb fyned i mewn i’r deml, nes darfod cyflawni saith bla’r saith angel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help