1Cymer drugaredd arnom ni, O Arglwydd Dduw pawb oll; ac edrych arnom:
2A gyr dy ofn ar y Cenhedloedd oll, y rhai ni’th geisiasant.
3Cyfod dy law ar y Cenhedloedd dieithr; gad iddynt weled dy allu di.
4Megis y’th sancteiddiwyd yn ein mysg ni ger eu bron hwynt; felly mawrhaer di yn eu mysg hwythau ger ein bron ninnau.
5Gwna iddynt dy adnabod megis yr ydym ni yn dy adnabod, nad oes un Duw ond tydi, O Arglwydd.
6Adnewydda arwyddion, a newidia ryfeddodau: gogonedda dy law a’th ddeheufraich, fel y gosodont allan dy weithredoedd rhyfedd.
7Cyffroa dy lid, a thywallt dy ddicter: cymer y gwrthwynebwr ymaith, a dryllia’r gelyn.
8Prysura’r amser, cofia’r cyfamod, a mynegant hwy dy ryfeddodau di.
9Gad i ddigofaint tanllyd ddifa’r neb a ddihango; a chaffed y rhai a wnânt niwed i’th bobl eu difetha.
10Dryllia bennau tywysogion y Cenhedloedd, y rhai a ddywedant, Nid oes ond nyni.
11Casgl holl lwythau Jacob ynghyd, a chymer hwynt yn etifeddiaeth i ti, megis o’r dechreuad.
12O Arglwydd, trugarha wrth y bobl, y rhai a elwir ar dy enw di; ac wrth Israel, yr hwn a elwaist ti yn gyntafanedig.
13Tosturia wrth Jerwsalem, dinas dy gysegr, a’th orffwysfa di.
14Llanw Seion â’th oraclau anhraethadwy, a’th bobl â’th ogoniant.
15Dod dystiolaeth i’r pethau a greaist yn y dechreuad; a chyfod y proffwydi a fuant yn dy enw.
16Dod wobr i’r rhai sydd yn aros wrthyt ti, s chaffer dy broffwydi yn ffyddlon.
17Gwrando, O Arglwydd, weddïau dy weision, yn ôl bendith Aaron i’th bobl, fel y gwypo y rhai oll sydd ar y ddaear mai ti yw yr Arglwydd, y Duw tragwyddol.
18Y bol a dreulia bob bwyd; ond y mae rhyw fwyd yn well na bwyd arall.
19Taflod y genau a edwyn amryw fwyd hela; felly yr edwyn calon gall eiriau celwyddog.
20Calon wrthnysig a bair dristwch; ond dyn a ŵyr lawer, a dâl iddo.
21Gwraig a dderbyn bob gŵr; eithr y mae rhyw ferch yn well na merch arall.
22Tegwch gwraig a lawenycha’r wynepryd; ac nid oes gan ŵr hyfrydwch mwy.
23Os bydd ar ei thafod hi drugaredd, lledneisrwydd, ac iachâd, nid fel eraill y mae ei gŵr hi.
24Y mae perchen gwraig yn dechrau llwyddo, sef help fel ef ei hun, a cholofn gorffwystra.
25Lle nid oes gae, yr anrheithir y berchenogaeth: a’r hwn nid oes wraig iddo, a grwydra dan alaru.
26Pwy a goelia williad wedi ymdaclu, ac yn gwibio o ddinas i ddinas? felly y mae am y dyn nid oes ganddo nyth, eithr lletya ym mha le bynnag yr elo hi yn nos arno.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
