II Esdras 15 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 15

1Wele, dywed, lle y clywo fy mhobl, eiriau’r broffwydoliaeth a ddanfonaf yn dy enau di, medd yr Arglwydd.

2A phâr eu hysgrifennu hwy ar bapur: canys ffyddlon a gwir ydynt.

3Nac ofna fwriadau yn dy erbyn; ac na chyffroed anffyddlondeb y rhai a ddywedant yn dy erbyn, ddim ohonot:

4Canys pob dyn anffyddlon a fydd marw yn ei anffyddlondeb.

5Wele, medd yr Arglwydd, mi a ddygaf ddialedd ar y byd, y cleddyf, newyn, marwolaeth, a dinistr:

6Canys anwiredd a halogodd yr holl ddaear yn ddirfawr, a chyflawnwyd eu gweithredoedd drygionus hwynt.

7Am hynny y dywed yr Arglwydd,

8Ni ataliaf mo’m tafod mwy, am eu hanwiredd hwy, y rhai a wnânt yn annuwiol, ac ni ddioddefaf iddynt yn y pethau a drinant mor ysgeler: wele, y gwaed gwirion cyfiawn sy’n gweiddi arnaf, ac eneidiau y rhai cyfiawn sy’n achwyn beunydd.

9Am hynny y dywed yr Arglwydd, Mi a ddialaf yn sicr, ac a gymeraf ataf yr holl waed gwirion o’u mysg hwynt.

10Wele, fy mhobl a dywysir fel diadell i’r lladdfa; ni adawaf iddynt yn awr aros yn nhir yr Aifft;

11Ond mi a’u dygaf hwy allan â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac a drawaf yr Aifft â dialeddau, fel y gwneuthum o’r blaen, ac a ddifethaf ei holl dir hi.

12Yr Aifft a alara, a’i sylfeini hi a drewir â’r bla ac â’r cerydd a ddwg Duw arni.

13Y rhai a lafuria’r ddaear a alarant: canys eu had a ddifethir gan falltod, a chenllysg, a thrwy seren ofnadwy.

14Gwae’r byd, a’r rhai a drigant ynddo!

15Canys y cleddyf a’u distryw hwynt sydd yn nesáu, a’r naill bobl a saif i ymladd yn erbyn y llall, â chleddyfau yn eu dwylo.

16Canys terfysg a fydd ymysg dynion, a’r naill a wna drais i’r llall: ni phrisiant ar eu brenin, a’r tywysogion a fesurant eu gweithredoedd wrth eu gallu.

17Gŵr a ewyllysia fyned i ddinas, ac nis gall fyned:

18Canys oherwydd eu balchder y trallodir y dinasoedd, y distrywir y tai, ac yr ofna dynion.

19Ni chymer gŵr drugaredd ar ei gymydog, ond difetha eu tai a wnânt â’r cleddyf, a dwyn eu da, oherwydd prinder bara, a chystudd mawr.

20Wele, medd Duw, mi a alwaf ynghyd holl frenhinoedd y ddaear i’m hanrhydeddu i, y rhai sydd o’r dwyrain, a’r deau, a’r gorllewin, a Libanus, i droi yn erbyn ei gilydd, ac i dalu’r pwyth iddynt.

21Fel y gwnânt y dydd heddiw i’m hetholedigion, felly y gwnaf finnau hefyd, a thalaf i’w mynwes. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw,

22Ni arbed fy neheulaw pechaduriaid, a’m cleddyf ni phaid â’r rhai a dywalltant waed gwirion ar y ddaear.

23Y tân a ddaeth allan o’i ddicter, ac a ddifethodd sylfeini’r ddaear, a’r pechaduriaid fel gwellt yn llosgi.

24Gwae y rhai a bechant, ac ni chadwant fy ngorchmynion! medd yr Arglwydd.

25Ni arbedaf hwynt. Ewch ymaith, chwi blant, oddi wrth y gallu; na halogwch fy nghysegr.

26Canys yr Arglwydd a edwyn bawb a’r a bechant yn ei erbyn ef, ac am hynny y rhydd efe hwynt i farwolaeth a distryw.

27Canys yn awr y daeth y dialedd ar yr holl ddaear, a byddwch chwithau yn eu mysg: oherwydd ni wareda Duw chwi, am i chwi bechu yn ei erbyn ef.

28Wele weledigaeth erchyll, â’i hwyneb o’r dwyrain:

29Lle y daw cenhedloedd o ddreigiau Arabia â llawer o gerbydau, a’u lliaws hwy a ddygir fel gwynt ar y ddaear, fel yr ofno ac y cryno pawb a’r a’i clywo.

30Y Carmaniaid yn ynfydu mewn dicter a ânt allan fel baeddod y coed, ac mewn nerth mawr y deuant, ac y safant yn eu herbyn hwy i ymladd, ac a ddistrywiant ran o wlad yr Asyriaid.

31Ac yna y dreigiau a gânt y llaw uchaf, gan gofio eu naturiaeth: ac os hwy a ymdroant, ac a gydfwriadant â nerth mawr i’w herlid hwynt,

32Yna y rhai hyn a flinir, ac a ddistawant yn eu nerth, ac a ffoant:

33A’r gelyn a esyd arnynt o wlad yr Asyriaid, ac a ddifetha rai ohonynt: ac yn eu llu hwy y bydd ofn ac arswyd, ac ymryson rhwng eu brenhinoedd.

34Wele gymylau o’r dwyrain, ac o’r gogledd i’r deau; ac erchyll yw edrych arnynt yn llawn llid a thymestl.

35A thrawant y naill ar y llall, a bwriant i lawr liaws mawr o sêr ar y ddaear, ie, eu seren eu hun; a’r gwaed fydd o’r cleddyf hyd y bol:

36A thail dyn hyd wasarn y camelod.

37A bydd ofn ac arswyd mawr ar y ddaear: a’r rhai a welant y llid o ofnant, ac arswyd a ddaw arnynt.

38Ac yno y daw tymhestloedd mawrion o’r deau a’r gogledd, a rhan arall o’r gorllewin.

39A gwyntoedd mawrion a gyfodant o’r dwyrain, ac a’i hagorant hi; a’r cwmwl yr hwn a gyfododd efe mewn llid, a’r seren yr hon a gynhyrfodd i beri ofn tua gwynt y dwyrain a’r gorllewin, a ddifethir.

40Y cymylau cryfion yn llawn llid, a’r seren a godir i fyny, fel y gallont ofni’r holl ddaear a’r neb a drigo ynddi; fel y gallont fwrw seren erchyll ar bob lle uchel,

41Tân a chenllysg, a chleddyfau yn ehedeg, a llawer o ddwfr, fel y byddo pob maes o phob afon yn llawn o ddyfroedd.

42A bwriant i lawr y dinasoedd a’r magwyrydd, y mynyddoedd a’r bryniau, y coedydd, a gwair y gweirgloddiau, a’u hŷd:

43Ac a ânt yn hy i Babilon, ac a’i dychrynant hi.

44Deuant ati hi, a gosodant arni hi, y seren a phob llid a dywalltant arni: yna yr â y llwch a’r mwg i’r nefoedd, a phawb a’r a fyddo yn ei chylch a alarant amdani.

45A’r sawl a fyddo tani a wasanaetbant y rhai a’i hofnodd hi.

46A thithau, Asia, yr hon wyt gyfrannog o obaith Babilon, yr hon wyt yn ogoniant iddi;

47Gwae di druan, am i ti dy wneuthur dy hun yn debyg iddi hi, a thrwsio dy ferched mewn godineb, fel y gallent ryngu bodd dy gariadau, ac ymffrostio ynddynt, y rhai a ddymunasant bob amser odinebu â thi!

48Canlynaist y ddinas ffiaidd yn ei holl weithredoedd a’i dychmygion: am hynny y dywed Duw,

49Danfonaf ddialedd arnat, gweddwdod, tlodi, newyn, cleddyf, a haint, i ddifetha dy dai â distryw ac â marwolaeth.

50A gogoniant dy nerth a ddiflanna fel llysieuyn, pan godo’r gwres a ddanfonir arnat.

51Ti a wanychir fel gwraig dlawd â gwialenodiau, ac fel un wedi ei cheryddu â gwelïau, fel nas gallo’r rhai galluog a’th gariadau dy dderbyn.

52A wnawn i trwy eiddigedd i ti felly, medd yr Arglwydd,

53Oni bai ladd ohonot bob amser fy etholedig, gan godi dyrnod dy ddwylo, a dywedyd, pan oeddit ti feddw uwchben eu marwolaeth,

54Dangos allan degwch dy wynepryd?

55Gwobr dy odineb a delir i’th fynwes; am hynny y cei dâl.

56Fel y gwnaethost i’m hetholedig, medd yr Arglwydd, felly y gwna Duw i tithau, ac y rhydd ddialedd arnat.

57Dy blant a fyddant feirw o newyn, a thithau a syrthi trwy’r cleddyf: dy ddinasoedd a fwrir i lawr, a chwbl o’r eiddot a ddifetha’r cleddyf yn y maes.

58Y rhai sy yn y mynyddoedd, a fyddant feirw o newyn, a bwytânt eu cig eu hunain, ac yfant eu gwaed eu hunain, o wir newyn bara a syched am ddwfr.

59Tithau yn anhapus a ddeui trwy’r môr, a chei ddialedd drachefn.

60Wrth fyned heibio y bwriant i lawr y ddinas laddedig, diwreiddiant un rhan o’th wlad, a difethant ran o’th ogoniant, a dychwelant i Babilon yr hon a ddistrywiwyd.

61Hwy a’th daflant i lawr fel sofl, a hwy a fyddant i ti fel tân.

62A difethant di, a’th ddinasoedd, a’th wlad, a’th fynyddoedd; a’th holl goedydd a’th brennau ffrwythlon a losgant â thân.

63Dy blant a gaethgludant, ac a anrheithiant gwbl ag a feddech, ac a ddifwynant degwch dy wyneb.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help