1A phan ddaethant i Ecbatane, hwy a aethant i dŷ Raguel: a Sara a gyfarfu â hwynt, ac a gyfarchodd iddynt, a hwythau iddi hithau; a hi a’u dug hwynt i’r tŷ.
2Yna y dywedodd Raguel wrth Edna ei wraig, Mor debyg yw’r gŵr ieuanc yma i’m cefnder Tobit!
3A Raguel a ofynnodd iddynt, O ba le yr ydych, fy mrodyr? Yna y dywedasant wrtho, O feibion Neffthali, y rhai sy gaethion yn Ninefe.
4Yna y dywedodd efe wrthynt, A adwaenoch chwi Tobit ein brawd? A hwythau a atebasant, Adwaenom. Yna y dywedodd yntau wrthynt, A ydyw efe yn iach?
5A hwy a ddywedasant, Y mae efe yn fyw ac yn iach. A Thobeias a ddywedodd, Fy nhad i yw efe.
6Yna Raguel a neidiodd i fyny, ac a’i cusanodd ef, ac a wylodd,
7Ac a’i bendithiodd ef, gan ddywedyd wrtho, Yr wyt ti yn fab i ŵr onest, ac i ŵr da. Eithr pan glybu efe fyned Tobit yn ddall, tristáu a wnaeth, ac wylo.
8Ac Edna ei wraig, a Sara ei ferch, a wylasant: ac wedi hynny eu croesawu hwy a wnaethant yn llawen, ac a laddasant faharen o’r defaid, ac a roddasant ger eu bronnau lawer o seigiau. Yna y dywedodd Tobeias wrth Raffael, Fy mrawd Asareias, dywed am y pethau hynny a soniaist amdanynt ar y ffordd, fel y gallo’r peth ddyfod i ben.
9Ac yntau a ddywedodd y chwedl wrth Raguel. A Raguel a ddywedodd wrth Tobeias, Bwyta ac yf, a gwna’n llawen.
10Gweddus ydyw i ti gael fy merch i yn briod: eto mi a ddangosaf i ti’r gwirionedd.
11Mi a roddais fy merch yn briod i saith o wŷr, a’r nos yr aethant i mewn ati, y buant feirw: eithr bydd di yn awr yn llawen. A Thobeias a ddywedodd, Ni fwytâf fi ddim yma, nes i ni gytuno, a thyngu i’n gilydd.
12A Raguel a ddywedodd wrtho, Cymer dithau hi o hyn allan yn ôl y gyfraith; canys tras wyt iddi, a hithau i tithau: a’r trugarog Dduw a’ch llwyddo ym mhob peth.
13Ac efe a alwodd Sara ei ferch, a hi a ddaeth at ei thad; yna efe a’i cymerth hi erbyn ei llaw, ac a’i rhoddes yn wraig i Tobeias, gan ddywedyd, Wele, cymer hi yn ôl cyfraith Moses; a dwg hi ymaith at dy dad. Ac efe a’u bendithiodd hwynt.
14Ac wedi iddo alw Edna ei wraig, efe a gymerth lyfr, ac a sgrifennodd ysgrifen o’r amodau, ac a’i seliodd.
15Ac yna y dechreuasant fwyta.
16A Raguel a alwodd Edna ei wraig, ac a ddywedodd wrthi, Fy chwaer, trefna stafell arall, a dwg hi i mewn yno.
17A hi a wnaeth fel y dywedodd efe, ac a’i dug hi i mewn i’r ystafell; a hithau a wylodd, a’i mam a dderbyniodd ddagrau ei merch, ac a ddywedodd wrthi,
18Cymer gysur, fy merch; rhodded Arglwydd nef a daear i ti lawenydd yn lle’r tristwch yma: bydd gysurus, fy merch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
