1Yna yr atebodd Tobeias, ac y dywedodd, Fy nhad, y cwbl oll a orchmynnaist i mi, mi a’i gwnaf:
2Eithr pa fodd y gallaf fi gael yr arian, a minnau heb ei adnabod ef?
3Yntau a roddes iddo yr ysgrifen-law, ac a ddywedodd wrtho, Cais i ti ryw un, yr hwn, tra fyddwyf fi yn y byd, a elo gyda thydi, a myfi a dalaf gyflog iddo ef: a dos, a derbyn yr arian.
4Ac efe a aeth i geisio un gydag ef, ac a gafodd Raffael, yr hwn oedd angel.
5Ac efe nis gwyddai. Ac efe a ddywedodd wrtho, A elli di fyned gyda mi i Rages? ac a adwaenost ti y lleoedd hynny yn dda?
6A’r angel a ddywedodd wrtho, Mi a af gyda thydi, ac mi a adwaen y ffordd yn dda; canys mi a fûm yn aros gyda’n brawd Gabael.
7Yna Tobeias a ddywedodd wrtho, Aros fi oni ddywedwyf i’m tad.
8Ac efe a ddywedodd wrtho, Dos, ac na thrig. Ac efe a aeth i mewn, ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, mi a gefais un i fyned gyda mi. Yna y dywedodd yntau, Galw ef ataf fi, modd y gallwyf wybod o ba lwyth y mae efe, a hefyd a ydyw efe yn ffyddlon i fyned gyda thi.
9Ac efe a alwodd arno, ac yntau a ddaeth i mewn: ac yna y cyfarchasant ei gilydd.
10A Thobit a ddywedodd wrtho, Fy mrawd, dangos i mi o ba lwyth a theulu yr wyt yn dyfod.
11Ac yntau a ddywedodd wrtho, Ai llwyth neu deulu yr wyt yn ei geisio, ai cyflogddyn i fyned gyda’th fab? A Thobit a’i hatebodd ef, Mi a ewyllysiwn, fy mrawd, gael gwybod dy genedl a’th enw di.
12Yntau a ddywedodd, Asareias ydwyf fi, fab Ananeias fawr, ac o’th frodyr di.
13Yna y dywedodd Tobit, Croeso wrthyt, fy mrawd: na ddigia wrthyf am i mi geisio gwybod y llwyth a’r teulu y daethost ohonynt: canys, fy mrawd, yr wyt ti o dylwyth onest a da: o achos mi a adwaen Ananeias a Jonathas, meibion Samaias fawr; fel yr oeddem yn myned ynghyd i Jerwsalem i addoli, gan ddwyn gyda ni y cynffrwyth, a degwm cynnydd yr anifeiliaid; hwy ni throseddasant yn amryfusedd ein brodyr ni: yr wyt ti o wreiddyn da, fy mrawd.
14Ond dywed i mi, pa gyflog a roddaf i ti? a fynny di ddrachmon beunydd, a chyfreidiau fel i’m mab fy hun?
15A hefyd mi a chwanegaf at y cyflog, os dychwelwch drachefn yn iach.
16Ac felly y cytunasant. Yna y dywedodd efe wrth Tobeias, Ymdrwsia i’r daith; a rhwydd hynt i chwi. Ac wedi i’r mab baratoi pob peth i’r daith, y dywedodd ei dad wrtho, Dos gyda’r gŵr hwn, a Duw, yr hwn sydd â’i drigfa yn y nef, a lwyddo eich ffordd chwi, ac eled angel Duw gyda chwi. Yna yr aethant ymaith ill dau, a chi’r llanc gyda hwynt.
17Eithr Anna ei fam ef a wylodd, gan ddywedyd wrth Tobit, Paham yr anfonaist ymaith ein mab? onid efe yw ffon ein llaw ni, i fyned i mewn ac allan ger ein bronnau?
18Na fydd chwannog i chwanegu arian at arian, ond bydded fel sorod wrth ein plentyn:
19Oherwydd yr hyn a roddes yr Arglwydd i ni i fyw, hynny sy ddigon i ni.
20A Thobit a ddywedodd wrthi, Na chymer ofal, fy chwaer; efe a ddaw yn ei ôl yn iach lawen, a’th lygaid di a’i gwelant ef.
21Canys yr angel daionus sydd yn cydymdaith ag ef; a’i ffordd ef a lwydda, ac efe a ddaw eilchwyl yn iach lawen.
22Yna hi a beidiodd ag wylo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.