2 Brenhinoedd 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna Eliseus a lefarodd wrth y wraig y bywhasai efe ei mab, gan ddywedyd, Cyfod, a dos, ti a’th dylwyth, ac ymdeithia lle y gellych ymdeithio: canys yr ARGLWYDD a alwodd am newyn, a hwnnw a ddaw ar y wlad saith mlynedd.

2A’r wraig a gyfododd, ac a wnaeth yn ôl gair gŵr DUW: a hi a aeth, hi a’i thylwyth, ac a ymdeithiodd yng ngwlad y Philistiaid saith mlynedd.

3Ac ymhen y saith mlynedd, y wraig a ddychwelodd o wlad y Philistiaid: a hi a aeth i weiddi ar y brenin am ei thŷ, ac am ei thir.

4A’r brenin oedd yn ymddiddan â Gehasi gwas gŵr DUW, gan ddywedyd, Adrodd i mi, atolwg, yr holl bethau mawr a wnaeth Eliseus.

5Ac fel yr oedd efe yn mynegi i’r brenin y modd y bywhasai efe y marw, yna wele y wraig y bywhasai efe ei mab yn gweiddi ar y brenin am ei thŷ, ac am ei thir. A Gehasi a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, dyma’r wraig, a dyma ei mab yr hwn a ddarfu i Eliseus ei fywhau.

6A’r brenin a ofynnodd i’r wraig; a hithau a fynegodd iddo ef. A’r brenin a roddodd iddi ryw ystafellydd, gan ddywedyd, Dod drachefn yr hyn oll oedd eiddi hi, a holl gnwd y maes, o’r dydd y gadawodd hi y wlad hyd y pryd hwn.

7A daeth Eliseus i Damascus: a Benhadad brenin Syria oedd glaf; a mynegwyd iddo ef, gan ddywedyd, Daeth gŵr DUW yma.

8A’r brenin a ddywedodd wrth Hasael, Cymer anrheg yn dy law, a dos i gyfarfod â gŵr DUW; ac ymofyn â’r ARGLWYDD trwyddo ef, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn?

9Felly Hasael a aeth i’w gyfarfod ef, ac a gymerth anrheg yn ei law, a phob peth a’r a oedd dda o Damascus, sef llwyth deugain o gamelod; ac a ddaeth, ac a safodd o’i flaen ef, ac a ddywedodd, Benhadad brenin Syria dy fab a’m hanfonodd atat, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn?

10Ac Eliseus a ddywedodd wrtho, Dos, a dywed wrtho, Diau y gelli fyw: eto yr ARGLWYDD a ddangosodd i mi y bydd efe marw yn ddiau.

11Ac efe a osododd ei wyneb, ac a ddaliodd sylw arno, nes cywilyddio ohono ef: a gŵr DUW a wylodd.

12A Hasael a ddywedodd, Paham y mae fy arglwydd yn wylo? Dywedodd yntau, Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel: eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân, a’u gwŷr ieuainc a leddi â’r cleddyf, a’u plant a bwyi, a’u gwragedd beichiogion a rwygi.

13A Hasael a ddywedodd, Pa beth! ai ci yw dy was, fel y gwnelai efe y mawr beth hyn? Ac Eliseus a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a ddangosodd i mi y byddi di yn frenin ar Syria.

14Felly efe a aeth ymaith oddi wrth Eliseus, ac a ddaeth at ei arglwydd; yr hwn a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt ti? Ac efe a atebodd, Efe a ddywedodd wrthyf, y byddit ti byw yn ddiau.

15A thrannoeth efe a gymerth wrthban, ac a’i gwlychodd mewn dwfr, ac a’i lledodd ar ei wyneb ef, fel y bu efe farw: a Hasael a deyrnasodd yn ei le ef.

16Ac yn y bumed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel, a Jehosaffat yn frenin yn Jwda, y dechreuodd Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda deyrnasu.

17Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu; ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

18Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnâi tŷ Ahab: canys merch Ahab oedd yn wraig iddo: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

19Ond ni fynnai yr ARGLWYDD ddifetha Jwda, er mwyn Dafydd ei was; megis yr addawsai efe, y rhoddai iddo oleuni, ac i’w feibion yn dragywydd.

20Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hunain.

21A Joram a aeth trosodd i Sair, a’r holl gerbydau gydag ef; ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau: a’r bobl a ffodd i’w pebyll.

22Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn. Yna y gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw.

23A’r rhan arall o hanes Joram, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

24A Joram a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

25Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel yr aeth Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda yn frenin.

26Mab dwy flwydd ar hugain oedd Ahaseia pan aeth efe yn frenin; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia, merch Omri brenin Israel.

27Ac efe a rodiodd yn ffordd tŷ Ahab, ac a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel tŷ Ahab: canys daw tŷ Ahab ydoedd efe.

28Ac efe a aeth gyda Joram mab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i Ramoth-gilead; a’r Syriaid a drawsant Joram.

29A Joram y brenin a ddychwelodd i Jesreel i ymiacháu o’r briwiau a roesai y Syriaid iddo ef yn Rama, wrth ymladd ohono ef yn erbyn Hasael brenin Syria: ac Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Joram mab Ahab yn Jesreel; canys claf ydoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help