1O Jerwsalem, diosg wisg dy alar a’th dristwch, a gwisg harddwch y gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn dragywydd.
2Gwisg amdanat wisg ddauddyblyg y cyfiawnder sydd o Dduw, a gosod ar dy ben goron gogoniant y Tragwyddol;
3Oblegid Duw a ddengys dy ddisgleirdeb di i bob cenedl dan y nefoedd.
4Canys Duw a eilw dy enw di byth, Heddwch cyfiawnder, a Gogoniant duwioldeb.
5Cyfod, Jerwsalem, a saf yn uchel, ac edrych tua’r dwyrain, a gwêl dy blant wedi eu casglu o fachludiad haul hyd ei godiad, trwy air yr hwn sydd Sanctaidd, ac yn llawen yng nghoffadwriaeth Duw.
6Ar eu traed yr aethant hwy oddi wrthyt ti, a’u gelynion a’u dygasant ymaith; eithr Duw a’u dwg hwynt atat ti, wedi eu dyrchafu mewn gogoniant, fel meibion y frenhiniaeth.
7Oblegid Duw a ordeiniodd ostwng pob mynydd uchel, a’r bryniau tragwyddol, a llenwi’r pantoedd i wastatâu y ddaear, fel y gallo Israel rodio’n ddiogel yng ngogoniant Duw.
8Y coedydd a phob pren aroglber a fuant gysgod i Israel wrth orchymyn Duw.
9Oherwydd Duw a arwain Israel yn llawen yng ngoleuni ei ogoniant, ynghyd a’r drugaredd, a’r cyfiawnder, yr hwn sydd oddi wrtho ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
