1 Samuel 11 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna Nahas yr Ammoniad a ddaeth i fyny, ac a wersyllodd yn erbyn Jabes Gilead: a holl wŷr Jabes a ddywedasant wrth Nahas, Gwna gyfamod â ni, ac ni a’th wasanaethwn di.

2A Nahas yr Ammoniad a ddywedodd wrthynt, Dan yr amod hyn y cyfamodaf â chwi; i mi gael tynnu pob llygad deau i chwi, fel y gosodwyf y gwaradwydd hwn ar holl Israel.

3A henuriaid Jabes a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni saith niwrnod, fel yr anfonom genhadau i holl derfynau Israel: ac oni bydd a’n gwaredo, ni a ddeuwn allan atat ti.

4A’r cenhadau a ddaethant i Gibea Saul, ac a adroddasant y geiriau lle y clybu y bobl. A’r holl bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.

5Ac wele Saul yn dyfod ar ôl y gwartheg o’r maes. A dywedodd Saul, Beth sydd yn peri i’r bobl wylo? Yna yr adroddasant iddo eiriau gwŷr Jabes.

6Ac ysbryd DUW a ddaeth ar Saul, pan glybu efe y geiriau hynny; a’i ddigofaint ef a enynnodd yn ddirfawr.

7Ac efe a gymerth bâr o ychen, ac a’u drylliodd, ac a’u danfonodd trwy holl derfynau Israel yn llaw y cenhadau; gan ddywedyd, Yr hwn nid elo ar ôl Saul ac ar ôl Samuel, fel hyn y gwneir i’w wartheg ef. Ac ofn yr ARGLWYDD a syrthiodd ar y bobl, a hwy a ddaethant allan yn unfryd.

8A phan gyfrifodd efe hwynt yn Besec, meibion Israel oedd dri chan mil, a gwŷr Jwda yn ddeng mil ar hugain.

9A hwy a ddywedasant wrth y cenhadau a ddaethai, Fel hyn y dywedwch wrth wŷr Jabes Gilead; Yfory, erbyn gwresogi yr haul, bydd i chwi ymwared. A’r cenhadau a ddaethant ac a fynegasant hynny i wŷr Jabes; a hwythau a lawenychasant.

10Am hynny gwŷr Jabes a ddywedasant, Yfory y deuwn allan atoch chwi; ac y gwnewch i ni yr hyn oll a weloch yn dda.

11A bu drannoeth i Saul osod y bobl yn dair byddin; a hwy a ddaethant i ganol y gwersyll yn yr wyliadwriaeth fore, ac a laddasant yr Ammoniaid nes gwresogi o’r dydd: a’r gweddillion a wasgarwyd, fel na thrigodd ohonynt ddau ynghyd.

12A dywedodd y bobl wrth Samuel, Pwy yw yr hwn a ddywedodd, A deyrnasa Saul arnom ni? moeswch y gwŷr hynny, fel y rhoddom hwynt i farwolaeth.

13A Saul a ddywedodd, Ni roddir neb i farwolaeth heddiw: canys heddiw, y gwnaeth yr ARGLWYDD ymwared yn Israel.

14Yna Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Deuwch, fel yr elom i Gilgal, ac yr adnewyddom y frenhiniaeth yno.

15A’r holl bobl a aethant i Gilgal, ac yno y gwnaethant Saul yn frenin, gerbron yr ARGLWYDD yn Gilgal: a hwy a aberthasant yno ebyrth hedd gerbron yr ARGLWYDD. A Saul a lawenychodd yno, a holl wŷr Israel, yn ddirfawr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help