Ecclesiasticus (Sirach) 10 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 10

1Barnwr doeth a ddysg ei bobl, a thywysogaeth y synhwyrol a drefn ir yn dda.

2Fel y byddo barnwr y bobl, y bydd ei swyddogion ef; ac fel y byddo tywysog, dinas, y bydd y rhai oll sydd yn preswylio ynddi.

3Brenin annoeth a ddifetha ei bobl; a thrwy synnwyr y penaethiaid y cyfanheddir y ddinas.

4Yn llaw’r Arglwydd y mae meddiant y ddaear: ac efe a gyfyd un buddiol mewn pryd arni.

5Yn llaw’r Arglwydd y mae llwyddiant gŵr: ac ar wyneb ysgrifennydd efe a esyd ei anrhydedd.

6Na ddwg gas i’th gymydog am bob cam; ac na wna ddim mewn gweithredoedd trahaus.

7Cas gerbron yr Arglwydd a dynion yw balchder: ac amryfusedd anghyfiawn a fwrir oddi wrth y ddau.

8Brenhiniaeth a symudir o’r naill genedl i’r llall o achos anghyfiawnder, a thraha, a chyfoeth trwy dwyll.

9Paham y mae pridd a lludw yn falch? Nid oes dim anwirach na’r cybydd: oblegid y mae’r cyfryw yn rhoddi ei enaid ei hun ar werth; oherwydd ei ymysgaroedd a fwrw efe allan yn ei fywyd.

10Meddyg a dyr ymaith hir glefyd: a’r hwn sy frenin heddiw, a fydd marw yfory.

11Canys pan fyddo marw dyn, efe a gaiff ymlusgiaid, a bwystfilod, a phryfed, yn etifeddiaeth.

12Dechreuad balchder yw myned o un oddi wrth Dduw, ac ymado o’i galon ef oddi wrth yr hwn a’i gwnaeth:

13Canys dechreuad pechod yw balchder; a’r hwn sydd yn ei ddal ef a wna ffieidd-dra yn drahaus: am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy gosbedigaeth ryfedd, ac y llwyr ddinistriodd hwynt.

14Yr Arglwydd a fwriodd i lawr orseddfeinciau tywysogion beilchion, ac a wnaeth i’r rhai llednais eistedd ynddynt yn eu lle hwynt.

15Yr Arglwydd a dynnodd ymaith wraidd y rhai beilchion, ac a blannodd y rhai gostyngedig yn eu lle hwynt mewn gogoniant.

16Yr Arglwydd a ddinistriodd wledydd y cenhedloedd, ac a’u difethodd hwynt hyd sylfeini’r ddaear.

17Efe a dynnodd rai ohonynt ymaith, ac a’u difethodd hwynt, ac a wnaeth i’w coffadwriaeth ddarfod oddi ar y ddaear.

18Ni chrewyd balchder i ddynion, na dicter llidiog i blant gwragedd.

19Had diogel yw y rhai sy’n ofni’r Arglwydd; a phlanhigyn gwerthfawr yw y rhai sy’n ei garu ef: had amharchus yw y rhai nid ystyriant y gyfraith; had cyfeiliornus yw y rhai a droseddant y gorchmynion.

20Parchedig ymysg brodyr yw eu tywysog; felly y mae y rhai sy’n ofni’r Arglwydd yn ei olwg yntau.

21Ofn yr Arglwydd sydd yn myned o flaen awdurdod: eithr dinistr tywysogaeth yw creulondeb a balchder.

22Ofn yr Arglwydd sydd ogoniant i’r cyfoethog, i’r anrhydeddus, ac i’r tlawd.

23Nid cyfiawn yw amherchi tlawd synhwyrol; ac nid gweddus anrhydeddu gŵr pechadurus.

24Pendefigion, a barnwyr, a chedyrn, a anrhydeddir; ac nid mwy neb ohonynt na’r hwn sydd yn ofni’r Arglwydd.

25Rhai rhyddion a wasanaethant was synhwyrol: a gŵr doeth ni rwgnach pan gerydder ef.

26Na chymer arnat fod yn ddoeth wrth wneuthur dy waith; ac na chais anrhydedd tra fyddech mewn ing:

27Oblegid gwell yw yr hwn sydd yn gweithio, ac mewn amldra o bob peth, na’r hwn sydd yn ymffrostio, ac arno eisiau bara.

28Fy mab, anrhydedda dy enaid yn llednais, a dod iddo yr anrhydedd a haeddai.

29Pwy a gyfiawnha yr hwn a becho yn erbyn ei enaid ei hun? a phwy a barcha yr hwn a amharcho ei fywyd ei hun?

30Y mae tlawd mewn parch oherwydd ei wybodaeth; ac y mae cyfoethog mewn parch oherwydd ei gyfoeth.

31Yr hwn sy barchedig mewn tlodi, pa faint mwy mewn cyfoeth? a’r hwn sydd amharchedig mewn cyfoeth, pa faint mwy mewn tlodi?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help