Esther 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Y dwthwn hwnnw y rhoddodd y brenin Ahasferus i’r frenhines Esther dŷ Haman gwrthwynebwr yr Iddewon. A Mordecai a ddaeth o flaen y brenin; canys Esther a fynegasai beth oedd efe iddi hi.

2A’r brenin a dynnodd ymaith y fodrwy a gymerasai efe oddi wrth Haman, ac a’i rhoddodd i Mordecai. Ac Esther a osododd Mordecai ar dŷ Haman.

3Ac Esther a lefarodd drachefn gerbron y brenin, ac a syrthiodd wrth ei draed ef; wylodd hefyd, ac ymbiliodd ag ef am fwrw ymaith ddrygioni Haman yr Agagiad, a’i fwriad yr hwn a fwriadasai efe yn erbyn yr Iddewon.

4A’r brenin a estynnodd y deyrnwialen aur tuag at Esther. Yna Esther a gyfododd, ac a safodd o flaen y brenin,

5Ac a ddywedodd, O bydd bodlon gan y brenin, ac o chefais ffafr o’i flaen ef, ac od ydyw y peth yn iawn gerbron y brenin, a minnau yn gymeradwy yn ei olwg ef; ysgrifenner am alw yn ôl lythyrau bwriad Haman mab Hammedatha yr Agagiad, y rhai a ysgrifennodd efe i ddifetha’r Iddewon sydd trwy holl daleithiau y brenin.

6Canys pa fodd y gallaf edrych ar y drygfyd a gaiff fy mhobl? a pha fodd y gallaf edrych ar ddifetha fy nghenedl?

7A’r brenin Ahasferus a ddywedodd wrth Esther y frenhines, ac wrth Mordecai yr Iddew, Wele, tŷ Haman a roddais i Esther, a hwy a’i crogasant ef ar y pren, am iddo estyn ei law yn erbyn yr Iddewon.

8Ysgrifennwch chwithau hefyd dros yr Iddewon fel y gweloch yn dda, yn enw y brenin, ac inseliwch â modrwy y brenin: canys yr ysgrifen a ysgrifennwyd yn enw y brenin ac a seliwyd â modrwy y brenin, ni all neb ei datroi.

9Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin yr amser hwnnw yn y trydydd mis, hwnnw yw y mis Sifan, ar y trydydd dydd ar hugain ohono, ac ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Mordecai, at yr Iddewon, ac at y rhaglawiaid, y penaduriaid hefyd, a thywysogion y taleithiau, y rhai oedd o India hyd Ethiopia, sef cant a saith ar hugain o daleithiau, i bob talaith wrth ei hysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith: at yr Iddewon hefyd yn ôl eu hysgrifen hwynt, ac yn ôl eu tafodiaith.

10Ac efe a ysgrifennodd yn enw y brenin Ahasferus, ac a’i seliodd â modrwy y brenin; ac a anfonodd lythyrau gyda’r rhedegwyr yn marchogaeth ar feirch, dromedariaid, mulod, ac ebolion cesig:

11Trwy y rhai y caniataodd y brenin i’r Iddewon, y rhai oedd ym mhob dinas, ymgynnull, a sefyll am eu heinioes, i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha holl allu y bobl a’r dalaith a osodai arnynt, yn blant ac yn wragedd, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt;

12Mewn un dydd, trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, sef ar y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar.

13Testun yr ysgrifen, i roddi gorchymyn ym mhob talaith, a gyhoeddwyd i bob rhyw bobl; ac ar fod yr Iddewon yn barod erbyn y diwrnod hwnnw i ymddial ar eu gelynion.

14Y rhedegwyr, y rhai oedd yn marchogaeth y dromedariaid a’r mulod, a aethant ar frys, wedi eu gyrru trwy air y brenin; a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys.

15A Mordecai a aeth allan o ŵydd y brenin mewn brenhinol wisg o ruddgoch a gwyn, ac â choron fawr o aur, ac mewn dillad sidan a phorffor; a dinas Susan a orfoleddodd ac a lawenychodd:

16I’r Iddewon yr oedd goleuni, a llawenydd, a hyfrydwch, ac anrhydedd.

17Ac ym mhob talaith, ac ym mhob dinas, lle y daeth gair y brenin a’i orchymyn, yr oedd llawenydd a hyfrydwch gan yr Iddewon, gwledd hefyd a diwrnod daionus: a llawer o bobl y wlad a aethant yn Iddewon; oblegid arswyd yr Iddewon a syrthiasai arnynt hwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help