Y Salmau 16 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 16Michtam Dafydd.

1Cadw fi, O DDUW: canys ynot yr ymddiriedaf.

2Fy enaid, dywedaist wrth yr ARGLWYDD, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti:

3Ond i’r saint sydd ar y ddaear, a’r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch.

4Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod-offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau.

5Yr ARGLWYDD yw rhan fy etifeddiaeth i a’m ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren.

6Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg.

7Bendithiaf yr ARGLWYDD, yr hwn a’m cynghorodd: fy arennau hefyd a’m dysgant y nos.

8Gosodais yr ARGLWYDD bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir.

9Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith.

10Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth.

11Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help