Josua 7 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y diofryd-beth: canys Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda, a gymerodd o’r diofryd-beth: ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn meibion Israel.

2A Josua a anfonodd wŷr o Jericho i Ai, yr hon sydd wrth Bethafen, o du’r dwyrain i Bethel, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Ewch i fyny, ac edrychwch y wlad. A’r gwŷr a aethant i fyny, ac a edrychasant ansawdd Ai.

3A hwy a ddychwelasant at Josua, ac a ddywedasant wrtho. Nac eled yr holl bobl i fyny; ond ynghylch dwy fil o wŷr, neu dair mil o wŷr, a ânt i fyny, ac a drawant Ai: na phoenwch yr holl bobl yno; canys ychydig ydynt hwy.

4Felly fe a aeth o’r bobl i fyny yno ynghylch tair mil o wŷr: a hwy a ffoesant o flaen gwŷr Ai.

5A gwŷr Ai a drawsant ynghylch un gŵr ar bymtheg ar hugain ohonynt; ac a’u hymlidiasant o flaen y porth hyd Sebarim, a thrawsant hwynt yn y goriwaered: am hynny y toddodd calonnau y bobl, ac yr aethant fel dwfr.

6A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau.

7A dywedodd Josua, Ah, ah, O ARGLWYDD IÔR, i ba beth y dygaist y bobl yma dros yr Iorddonen, i’n rhoddi ni yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha? O na buasem fodlon, ac na thrigasem tu hwnt i’r Iorddonen!

8O ARGLWYDD, beth a ddywedaf, pan dry Israel ei war o flaen ei elynion!

9Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlad, a glywant, ac a’n hamgylchynant, ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear: a pha beth a wnei i’th enw mawr?

10A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Cyfod; paham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb?

11Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfamod a orchmynnais iddynt: cymerasant hefyd o’r diofryd-beth, lladratasant, a gwadasant; gosodasant hefyd hynny ymysg eu dodrefn eu hun.

12Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwar o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymunbeth: ni byddaf mwyach gyda chwi, oni ddifethwch yr ysgymunbeth o’ch mysg.

13Cyfod, sancteiddia y bobl, a dywed, Ymsancteiddiwch erbyn yfory: canys fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Diofryd-beth sydd yn dy blith di, O Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymaith y diofryd-beth o’ch mysg.

14Am hynny nesewch y bore wrth eich llwythau: a’r llwyth a ddalio yr ARGLWYDD, nesaed bob yn deulu; a’r teulu a ddalio yr ARGLWYDD, nesaed bob yn dŷ; a’r tŷ a ddalio yr ARGLWYDD, nesaed bob yn ŵr.

15A’r hwn a ddelir a’r diofryd-beth ganddo, a losgir â thân, efe ac oll sydd ganddo: oherwydd iddo droseddu cyfamod yr ARGLWYDD, ac oherwydd iddo wneuthur ynfydrwydd yn Israel.

16Felly Josua a gyfododd yn fore, ac a ddug Israel wrth eu llwythau: a llwyth Jwda a ddaliwyd.

17Ac efe a ddynesodd deulu Jwda; a daliwyd teulu y Sarhiaid: ac efe a ddynesodd deulu y Sarhiaid bob yn ŵr; a daliwyd Sabdi:

18Ac efe a ddynesodd ei dyaid ef bob yn ŵr; a daliwyd Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda.

19A Josua a ddywedodd wrth Achan, Fy mab, atolwg, dyro ogoniant i ARGLWYDD DDUW Israel, a chyffesa iddo; a mynega yn awr i mi beth a wnaethost: na chela oddi wrthyf.

20Ac Achan a atebodd Josua, ac a ddywedodd, Yn wir myfi a bechais yn erbyn ARGLWYDD DDUW Israel; canys fel hyn ac fel hyn y gwneuthum.

21Pan welais ymysg yr ysbail fantell Fabilonig deg, a dau can sicl o arian, ac un llafn aur o ddeg sicl a deugain ei bwys; yna y chwenychais hwynt, ac a’u cymerais: ac wele hwy yn guddiedig yn y ddaear yng nghanol fy mhabell, a’r arian danynt.

22Yna Josua a anfonodd genhadau; a hwy a redasant i’r babell: ac wele hwynt yn guddiedig yn ei babell ef, a’r arian danynt.

23Am hynny hwy a’u cymerasant o ganol y babell, ac a’u dygasant at Josua, ac at holl feibion Israel; ac a’u gosodasant hwy o flaen yr ARGLWYDD.

24A Josua a gymerth Achan mab Sera, a’r arian, a’r fantell, a’r llafn aur, ei feibion hefyd, a’i ferched, a’i wartheg, a’i asynnod, ei ddefaid hefyd, a’i babell, a’r hyn oll a feddai efe: a holl Israel gydag ef a’u dygasant hwynt i ddyffryn Achor.

25A Josua a ddywedodd, Am i ti ein blino ni, yr ARGLWYDD a’th flina dithau y dydd hwn. A holl Israel a’i llabyddiasant ef â meini, ac a’u llosgasant hwy â thân, wedi eu llabyddio â meini.

26A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn. Felly y dychwelodd yr ARGLWYDD oddi wrth lid ei ddigofaint. Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor, hyd y dydd hwn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help