Amos 3 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gwrandewch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD i’ch erbyn chwi, plant Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o wlad yr Aifft, gan ddywedyd,

2Chwi yn unig a adnabûm o holl deuluoedd y ddaear: am hynny ymwelaf â chwi am eich holl anwireddau.

3A rodia dau ynghyd, heb fod yn gytûn?

4A rua y llew yn y goedwig, heb ganddo ysglyfaeth? a leisia cenau llew o’i ffau, heb ddal dim?

5A syrth yr aderyn yn y fagl ar y ddaear, heb fod croglath iddo? a gyfyd un y fagl oddi ar y ddaear, heb ddal dim?

6A genir utgorn yn y ddinas, heb ddychrynu o’r bobl? a fydd niwed yn y ddinas, heb i’r ARGLWYDD ei wneuthur?

7Canys ni wna yr ARGLWYDD ddim, a’r nas dangoso ei gyfrinach i’w weision y proffwydi.

8Rhuodd y llew, pwy nid ofna? yr Arglwydd IÔR a lefarodd, pwy ni phroffwyda?

9Cyhoeddwch o fewn y palasau yn Asdod, ac yn y palasau yng ngwlad yr Aifft, a dywedwch, Deuwch ynghyd ar fynyddoedd Samaria, a gwelwch derfysgoedd lawer o’i mewn, a’r gorthrymedigion yn ei chanol hi.

10Canys ni fedrant wneuthur uniondeb, medd yr ARGLWYDD: pentyrru y maent drais ac ysbail yn eu palasau.

11Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gelyn fydd o amgylch y tir; ac efe a dynn i lawr dy nerth oddi wrthyt, a’th balasoedd a ysbeilir.

12Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Fel yr achub y bugail o safn y llew y ddwy goes, neu ddarn o glust; felly yr achubir meibion Israel y rhai sydd yn trigo yn Samaria mewn cwr gwely, ac yn Damascus mewn gorweddle.

13Gwrandewch, a thystiolaethwch yn nhŷ Jacob, medd yr ARGLWYDD DDUW, DUW y lluoedd,

14Mai y dydd yr ymwelaf ag anwiredd Israel arno ef, y gofwyaf hefyd allorau Bethel: a chyrn yr allor a dorrir, ac a syrthiant i’r llawr.

15A mi a drawaf y gaeafdy a’r hafdy; a derfydd am y tai ifori, a bydd diben ar y teiau mawrion, medd yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help