I Macabeiad 5 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 5

1Digwyddodd hefyd, pan glybu’r Cenhedloedd oddi amgylch ddarfod adeiladu’r allor, ac adnewyddu’r cysegr, fel y buasent o’r blaen, yna digio yn ddirfawr a wnaethant.

2Am hynny hwy a ymgyngorasant i ddistrywio cenedl Jacob, yr hon oedd yn eu plith hwy, ac a ddechreuasant ladd ac erlid y bobl.

3Yna Jwdas a ymladdodd yn erbyn plant Esau yn Idumea, yn Arabatthane, am eu bod yn gwarchae ar Israel; ac efe a’u trawodd â phla mawr, ac a’u darostyngodd, ac a ddug eu hysbail hwynt.

4Efe a gofiodd hefyd falais ac anffyddlondeb plant Bean, fel yr oeddynt hwy’n rhwyd ac yn rhwystr i’r bobl, ac yn eu cynllwyn hwy yn y ffyrdd.

5Am hynny efe a’u caeodd hwy mewn tyrau, ac a wersyllodd yn eu herbyn, ac a’u distrywiodd hwy yn llwyr, ac a losgodd eu tyrau, a phawb a’r oedd ynddynt.

6Wedi hynny efe a aeth trosodd at blant Ammon, ac a gafodd yno lu cadarn, a llawer o bobl, gyda Thimotheus eu capten:

7Ac efe a ymladdodd â hwynt mewn llawer o ryfeloedd, a hwy a ddistrywied o’i flaen ef; ac efe a’u trawodd hwynt.

8Ac wedi iddo ennill Jasar, a’r trefydd oedd yn perthynu iddi, efe a ddychwelodd i Jwdea.

9Yna y Cenhedloedd yn Galaad a ymgasglasant yn erbyn yr Israeliaid, y rhai oedd o fewn eu terfynau hwy, i’w lladd hwy: ond hwy a ffoesant i gastell Dathema,

10Ac a anfonasant lythyrau at Jwdas a’i frodyr, gan ddywedyd, Y cenhedloedd, y rhai sy o’n hamgylch ni, a ymgasglasant yn ein herbyn ni, i’n distrywio.

11Ac yr awron y maent hwy yn ymbaratoi i ddyfod, ac i amgylchu’r castell, lle y ffoesom ni: a Thimotheus ydyw capten eu llu hwy.

12Tyred yn awr gan hynny, a gwared ni allan o’u dwylo hwy: canys llawer ohonom ni a laddwyd eisoes.

13A’n holl frodyr, y rhai oedd yn lleoedd Tobie, a laddwyd: eu gwragedd hefyd a’u plant a ddygasant hwy ymaith yn gaethion, a’u da a ddygasant, ac a laddasant yno ynghylch mil o wŷr.

14Pan oedd y llythyrau hyn eto yn eu darllen, wele, cenhadon eraill a ddaeth o Galilea, wedi rhwygo eu dillad, y rhai a fynegasant yn ôl y geiriau hyn,

15Ac a ddywedasant, Ymgasglodd y rhai sy o Ptolemais, a Thyrus, a Sidon, a holl Galilea y Cenhedloedd, yn ein herbyn ni, i’n distrywio.

16Pan glybu Jwdas a’r bobl hyn yma, cynulleidfa fawr a ymgasglodd i ymgynghori pa beth a wnaent i’w brodyr oedd mewn gorthrymder, ac â rhyfel yn eu herbyn.

17A Jwdas a ddywedodd wrth Simon ei frawd, Dewis allan wŷr, a dos i achub dy frodyr yn Galilea, a myfi a’m brawd Jonathan a awn i wlad Galaad.

18Ac efe a adawodd Joseff fab Sachareias, ac Asareias, yn gapteiniaid ar y bobl a gweddill y llu yn Jwdea, i’w chadw hi.

19Ac efe a orchmynnodd iddynt hwy, gan ddywedyd, Llywodraethwch y bobl yma, a mogelwch osod rhyfel yn erbyn y Cenhedloedd, hyd oni ddychwelom ni.

20Ac fe roddwyd teirmil o wŷr Simon, i fyned i Galilea; ac wyth mil o wŷr Jwdas, yn erbyn gwlad Galaad.

21Yna Simon a aeth i Galilea, ac a drawodd ar y Cenhedloedd mewn llawer o ryfeloedd, ac a’u gorchfygodd hwy.

22Ac efe a’u canlynodd hwy hyd byrth Ptolemais: ac ynghylch teirmil o wŷr o’r Cenhedloedd a laddwyd; ac efe a gymerodd eu hysbail hwy;

23Ac a ddygodd yr Israeliaid ymaith, y rhai oedd yn garcharorion yn Galilea, ac yn Arbattis, a’u gwragedd, a’u plant, a chymaint ag a feddent, ac a’u dygodd hwy i Jwdea â llawenydd mawr.

24A Jwdas Macabeus, a’i frawd Jonathan, a aethant dros yr Iorddonen, ac a aethant daith tridiau yn yr anialwch;

25Lle y cyfarfuant hwy â’r Nabathiaid, y rhai a ddaethant atynt yn heddychol, ac a fynegasant iddynt bob peth a ddigwyddasai i’w brodyr hwy yng ngwlad Galaad;

26Ac fel y caeasid llawer ohonynt hwy yn Bosora, Bosor, Alima, Chascor, Maceda, a Charnaim; (dinasoedd cryfion a mawrion ydyw y rhai hyn oll:)

27A’u bod wedi cau arnynt yn y lleill o ddinasoedd gwlad Galaad, a’u bod hwy wedi bwriadu dwyn eu llu yn erbyn yr amddiffynfaoedd i’w dal hwy, ac i’w difetha oll yn yr un dydd.

28Ac ar hyn Jwdas a’i lu a drodd ar frys, ar hyd ffordd yr anialwch tua Bosor, ac a enillodd y ddinas, ac a laddodd yr holl rai gwrywiaid â’r cleddyf, ac a gymerodd eu holl ysbail hwy, ac a losgodd y ddinas â thân.

29Ac efe a symudodd oddi yno liw nos, ac a ddaeth tua’r castell.

30A phan oedd hi yn fore ddydd, hwy a godasant eu golwg i fyny, ac wele lu annifeiriol o bobl yn dwyn ysgolion ac offer rhyfel i fyny i ennill y castell: ac yr oeddynt wedi gosod arnynt hwy.

31Pan welodd Jwdas ddechrau o’r rhyfel, a bod gwaedd y ddinas yn dyrchafu tua’r nef gan utgyrn a llef uchel,

32Efe a ddywedodd wrth ei lu, Ymleddwch heddiw dros eich brodyr.

33Ac efe a ddaeth o’r tu ôl iddynt mewn tair byddin; a hwy a ganasant yr utgyrn, ac a lefasant ynghyd â gweddi.

34Pan wybu gwersyll Timotheus mai Macabeus oedd yno, hwy a ffoesant rhagddo ef: ond efe a’u trawodd hwy â lladdfa fawr; ac ynghylch wyth mil o wŷr a ladded ohonynt y diwrnod hwnnw.

35Yna Jwdas a drodd tua Masffa, ac a osododd arni, ac a’i henillodd hi, ac a laddodd bob gwryw ynddi, ac a gymerodd ei hysbail, ac a’i llosgodd hi â thân.

36Efe a aeth oddi yno, ac a enillodd Casffon, Maged, Bosor, a’r dinasoedd eraill yn Galaad.

37Wedi hyn Timotheus a gasglodd lu arall, ac a wersyllodd o flaen Raffon, o’r tu draw i’r afon.

38A Jwdas a anfonodd i sbïo’r gwersyll; a hwy a ddygasant air iddo, gan ddywedyd, Y mae’r holl genhedloedd sy o’n hamgylch ni wedi ymgasglu ato ef, yn llu lluosog iawn:

39Ac efe a gyflogodd yr Arabiaid i’w cymorth hwy; a hwy a wersyllasant o’r tu draw i’r afon, ac y maent yn barod i ddyfod, ac i ymladd â thi: a Jwdas a aeth i gyfarfod â hwynt.

40A Thimotheus a ddywedodd wrth gapteiniaid ei lu, Pan ddelo Jwdas a’i lu yn agos at yr afon, os daw efe trosodd yn gyntaf atom ni, ni allwn ni ei wrthwynebu ef, oblegid efe a fydd trech na nyni o lawer.

41Ond os arswyda efe ddyfod trosodd, a gwersyllu o’r tu draw i’r afon, nyni a awn trosodd ato ef, a nyni a fyddwn gryfach nag ef.

42Ond pan nesaodd Jwdas at yr afon, efe a osododd ysgrifenyddion y bobl yng nglan yr afon, ac a orchmynnodd iddynt hwy, gan ddywedyd, Na adewch i un dyn aros yn y gwersyll, ond deued pawb i’r rhyfel.

43Ac efe a aeth trosodd yn gyntaf atynt hwy, a’i holl bobl ar ei ôl: a’r holl Genhedloedd a orchfyged ger ei fron ef; a hwy a daflasant eu harfau ymaith, ac a ffoesant i’r deml oedd yn Carnaim.

44A Jwdas a enillodd y ddinas, ac a losgodd y deml a phawb a’r oedd ynddi hi: felly y gorchfyged Carnaim, ac ni allodd hi wrthwynebu Jwdas.

45A Jwdas a gasglodd yr holl Israeliaid oedd yng ngwlad Galaad, o’r lleiaf hyd y mwyaf, a’u gwragedd, a’u plant, a’u mud, llu mawr iawn, i ddyfod i wlad Jwdea.

46A hwy a ddaethant i Effron; yr hon oedd ddinas fawr gadarn iawn, ar y ffordd yr elent hwy; nid oedd fodd iddynt fyned heb ei llaw hi, nac ar y llaw ddeau, nac ar y llaw aswy, ond myned trwy ei chanol hi oedd raid iddynt.

47Yna gwŷr y ddinas a’u caeasant hwynt allan, ac a gaeasant y pyrth â cherrig.

48A Jwdas a ddanfonodd atynt hwy â geiriau heddychol, gan ddywedyd, Gadewch i ni fyned trwy eich gwlad chwi, fel y gallom fyned i’n gwlad ein hun, ac ni chaiff neb wneuthur i chwi ddrwg; nid awn ni drwodd ond ar draed: ond ni fynnent hwy agoryd iddo.

49Am hynny Jwdas a orchmynnodd gyhoeddi trwy’r llu, ar i bob un wersyllu yn y fan yr ydoedd efe.

50Ac felly gwŷr y llu a wersyllasant, ac a ryfelasant yn erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl noson honno; a’r ddinas a roddwyd yn ei law ef.

51Ac efe a laddodd yr holl rai gwrywiaid â min y cleddyf, ac a ddiwreiddiodd y ddinas, ac a gymerodd ei hysbail hi, ac a dramwyodd trwy’r ddinas, ar draws y rhai a laddasid.

52Yna hwy a aethant dros yr Iorddonen, i’r gwastadedd mawr sydd o flaen Bethsan.

53A Jwdas oedd yn casglu ynghyd y rhai olaf, ac yn cynghori’r bobl ar hyd yr holl ffordd, hyd oni ddaeth efe i wlad Jwdea.

54A hwy a aethant i fyny i fynydd Seion mewn gorfoledd a llawenydd, ac a offrymasant boethoffrymau, am na laddasid neb ohonynt hwy, oni ddychwelasant mewn heddwch.

55Ac yn y dyddiau hynny, y rhai yr oedd Jwdas a Jonathan yng ngwlad Galaad, a Simon eu brawd hwy yng ngwlad Galilea, o flaen Ptolemais,

56Yna Joseff mab Sachareias, ac Asareias, capteiniaid y llu, a glywsant y gweithredoedd ardderchog a’r rhyfeloedd a wnaethent hwy.

57A hwythau a ddywedasant, Gadewch i ninnau hefyd ennill enw i ni, a myned i ymladd yn erbyn y Cenhedloedd sy o’n hamgylch.

58A hwy a roddasant orchymyn i’r rhai oedd yn y llu oedd gyda hwynt, ac a aethant tua Jamnia.

59Yna Gorgias a’i wŷr a ddaeth allan o’r ddinas i ymladd yn eu herbyn hwy.

60Ond Joseff ac Asareias a yrrwyd i ffoi, ac a ymlidiwyd hyd derfynau Jwdea: a dwy fil o wŷr o bobl Israel a laddwyd y diwrnod hwnnw.

61Fel hyn y bu colled fawr ymhlith pobl Israel, am na wrandawsent hwy ar Jwdas a’i frodyr, eithr meddwl gwneuthur rhyw wrolaeth.

62Hefyd nid oeddynt hwy o had y gwŷr hynny y rhoddasid ar eu dwylo achub Israel.

63Ond y gŵr Jwdas a’i frodyr a ogoneddid yn fawr gerbron holl Israel a’r holl genhedloedd, pa le bynnag y clywid eu henw hwy.

64A’r bobl a ymgasglai atynt i gyfarch gwell iddynt.

65Wedi hynny Jwdas a’i frodyr a aethant allan, ac a ryfelasant yn y wlad sy’n gorwedd tua’r deau, yn erbyn meibion Esau; ac yno efe a oresgynnodd Hebron a’i phentrefydd, ac a dynnodd i lawr ei chastell hi, a’i thyrau hi a losgodd efe oddi amgylch.

66Yna efe a ymadawodd i fyned i wlad y dieithriaid, ac a aeth trwy Samaria.

67Ar yr un amser y lladdwyd rhai o offeiriaid y dinasoedd, y rhai oedd yn ewyllysio gwneuthur gwrolaeth, am fyned ohonynt i ymladd heb gyngor.

68A phan ddaeth Jwdas i Asotus yng ngwlad y dieithriaid, efe a ddistrywiodd eu hallorau hwy, ac a losgodd eu delwau cerfiedig, ac a gymerodd ysbail y dinasoedd, ac a ddychwelodd i wlad Jwdea.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help