1 Brenhinoedd 21 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A digwyddodd ar ôl y pethau hyn, fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliad, yr hon oedd yn Jesreel, wrth balas Ahab brenin Samaria.

2Ac Ahab a lefarodd wrth Naboth, gan ddywedyd, Dyro i mi dy winllan, fel y byddo hi i mi yn ardd lysiau, canys y mae hi yn agos i’m tŷ i: a mi a roddaf i ti amdani hi winllan well na hi; neu, os da fydd gennyt, rhoddaf i ti ei gwerth hi yn arian.

3A Naboth a ddywedodd wrth Ahab, Na ato yr ARGLWYDD i mi roddi treftadaeth fy hynafiaid i ti.

4Ac Ahab a ddaeth i’w dŷ yn athrist ac yn ddicllon, oherwydd y gair a lefarasai Naboth y Jesreeliad wrtho ef; canys efe a ddywedasai, Ni roddaf i ti dreftadaeth fy hynafiaid. Ac efe a orweddodd ar ei wely, ac a drodd ei wyneb ymaith, ac ni fwytâi fara.

5Ond Jesebel ei wraig a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Paham y mae dy ysbryd mor athrist, ac nad wyt yn bwyta bara?

6Ac efe a ddywedodd wrthi, Oherwydd i mi lefaru wrth Naboth y Jesreeliad, a dywedyd wrtho, Dyro i mi dy winllan er arian: neu, os mynni di, rhoddaf i ti winllan amdani. Ac efe a ddywedodd, Ni roddaf i ti fy ngwinllan.

7A Jesebel ei wraig a ddywedodd wrtho, Ydwyt ti yn awr yn teyrnasu ar Israel? cyfod, bwyta fara, a llawenyched dy galon; myfi a roddaf i ti winllan Naboth y Jesreeliad.

8Felly hi a ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, ac a’u seliodd â’i sêl ef, ac a anfonodd y llythyrau at yr henuriaid, ac at y penaethiaid oedd yn ei ddinas yn trigo gyda Naboth.

9A hi a ysgrifennodd yn y llythyrau, gan ddywedyd, Cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth uwchben y bobl.

10Cyflëwch hefyd ddau ŵr o feibion y fall, gyferbyn ag ef, i dystiolaethu i’w erbyn ef, gan ddywedyd, Ti a geblaist DDUW a’r brenin. Ac yna dygwch ef allan, a llabyddiwch ef, fel y byddo efe marw.

11A gwŷr ei ddinas, sef yr henuriaid a’r penaethiaid, y rhai oedd yn trigo yn ei ddinas ef, a wnaethant yn ôl yr hyn a anfonasai Jesebel atynt hwy, ac yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yn y llythyrau a anfonasai hi atynt hwy.

12Cyhoeddasant ympryd, a chyfleasant Naboth uwchben y bobl.

13A dau ŵr, o feibion y fall, a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer ef: a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef, sef yn erbyn Naboth, gerbron y bobl, gan ddywedyd, Naboth a gablodd DDUW a’r brenin. Yna hwy a’i dygasant ef allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw.

14Yna yr anfonasant hwy at Jesebel, gan ddywedyd, Naboth a labyddiwyd, ac a fu farw.

15A phan glybu Jesebel labyddio Naboth, a’i farw, Jesebel a ddywedodd wrth Ahab, Cyfod, perchenoga winllan Naboth y Jesreeliad yr hwn a wrthododd ei rhoddi i ti er arian; canys nid byw Naboth, eithr marw yw.

16A phan glybu Ahab farw Naboth, Ahab a gyfododd i fyned i waered i winllan Naboth y Jesreeliad, i gymryd meddiant ynddi.

17A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd,

18Cyfod, dos i waered i gyfarfod Ahab brenin Israel, yr hwn sydd yn Samaria: wele efe yng ngwinllan Naboth, yr hon yr aeth efe i waered iddi i’w meddiannu.

19A llefara wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, A leddaist ti, ac a feddiennaist hefyd? Llefara hefyd wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Yn y fan lle y llyfodd y cŵn waed Naboth, y llyf cŵn dy waed dithau hefyd.

20A dywedodd Ahab wrth Eleias, A gefaist ti fi, O fy ngelyn? Dywedodd yntau, Cefais: oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

21Wele fi yn dwyn drwg arnat ti, a mi a dynnaf ymaith dy hiliogaeth di, ac a dorraf oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r gweddilledig yn Israel:

22A mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahïa, oherwydd y dicter trwy yr hwn y’m digiaist, ac y gwnaethost i Israel bechu.

23Am Jesebel hefyd y llefarodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Y cŵn a fwyty Jesebel wrth fur Jesreel.

24Y cŵn a fwyty yr hwn a fyddo marw o’r eiddo Ahab yn y ddinas: a’r hwn a fyddo marw yn y maes a fwyty adar y nefoedd.

25Diau na bu neb fel Ahab yr hwn a ymwerthodd i wneuthur drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: oherwydd Jesebel ei wraig a’i hanogai ef.

26Ac efe a wnaeth yn ffiaidd iawn, gan fyned ar ôl delwau, yn ôl yr hyn oll a wnaeth yr Amoriaid, y rhai a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.

27A phan glybu Ahab y geiriau hyn, efe a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachliain am ei gnawd, ac a ymprydiodd, ac a orweddodd mewn sachliain, ac a gerddodd yn araf.

28A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd,

29Oni weli di fel yr ymostwng Ahab ger fy mron? am iddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef; ond yn nyddiau ei fab ef y dygaf y drwg ar ei dŷ ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help