II Esdras 4 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 4

1A’r angel, yr hwn a ddanfonwyd ataf, yr hwn yr oedd ei enw Uriel, a’m hatebodd,

2Ac a ddywedodd, Fe aeth dy galon yn rhy bell yn y byd hwn; ac a ydwyt ti yn meddwl amgyffred ffordd y Goruchaf?

3Yna y dywedais innau, Gwir, fy Arglwydd. Ac efe a’m hatebodd, gan ddywedyd, Fe a’m hanfonwyd i ddangos i ti dair ffordd, ac i roddi tri chyffelybrwydd o’th flaen di.

4Os dangosi i mi un ohonynt, minnau a ddangosaf i tithau’r ffordd yr ewyllysi gael ei gweled; a dangosaf i ti o ba le y mae’r galon ddrwg.

5A mi a ddywedais, Dywed, fy Arglwydd. Yna y dywedodd efe wrthyf, Dos, pwysa i mi bwys tân, neu fesur i mi’r awel wynt, neu alw yn ei ôl y dydd a aeth heibio.

6Yna yr atebais ac y dywedais, Pa ddyn a all wneuthur hynny, fel y gofynnit i mi’r fath bethau?

7Ac efe a ddywedodd wrthyf, Pe gofynnwn i ti pa faint o drigfannau sy yng nghanol y môr, neu pa rifedi o aberoedd sydd yn nechrau’r dyfnder, neu pa gymaint o ffynhonnau sydd oddi ar y ffurfafen, neu pa le y mae terfynau Paradwys;

8Ond antur ti a ddywedit wrthyf, Nid euthum i erioed i’r dyfnder, nac i uffern, ac ni ddringais i’r nefoedd.

9Ac yn awr ni ofynnais i ti ond yn unig am y tân, a’r gwynt, a’r dydd a dreuliaist, ac am bethau nis gellir dy neilltuo oddi wrthynt; er hynny ni fedri roddi i mi ateb amdanynt.

10Ac efe a ddywedodd wrthyf eilwaith, Nid adwaenost yr eiddot dy hun, na’r pethau a dyfasant gyda thi;

11A pha fodd y gall dy lestr di amgyffred ffordd y Goruchaf? a’r byd yn awr wedi ei lygru oddi allan, ddeall y llygredigaeth sydd yn amlwg yn fy ngolwg i?

12A dywedais wrtho ef, Gwell a fuasai i ni na buasem, na bod i ni fyw mewn anwireddau; a dioddef, heb wybod paham.

13Efe a’m hatebodd, ac a ddywedodd, Mi a euthum i goed mawr ar faes, a’r prennau oedd yn ymgynghori,

14Gan ddywedyd, Deuwch, awn i ymladd â’r môr, hyd oni chilio efe rhagom, fel y gallom wneuthur mwy o goedydd.

15A llifeiriaint y môr hefyd yr un modd a ymgyngorasant, gan ddywedyd, Deuwch, awn i fyny, a darostyngwn goedydd y maes, fel y gallom wneuthur i ni wlad arall yno hefyd.

16A gwnaethpwyd bwriad y coed yn ofer: canys tân a ddaeth ac a’i llosgodd ef.

17Hefyd bwriad llifeiriant y môr a ballodd: canys y tywod a safodd, ac a’i rhwystrodd ef.

18Pe byddit ti yn farnwr rhwng y ddau hyn, pa un a gyfiawnheit ti? neu pa un a gondemnit ti?

19Mi a atebais, gan ddywedyd, Yn wir ofer oedd eu hamcanion ill dau: canys y tir a roddwyd i’r coed; ac y mae hefyd i’r môr le i fwrw ei donnau.

20Yna y’m hatebodd, gan ddywedyd, Ti a fernaist yn gyfiawn: ond paham na ferni dy hun hefyd?

21Canys fel y rhoddwyd y tir i’r coed, a’r môr i’w donnau; yn yr un modd y rhai a drigant ar y ddaear ni ddeallant ddim ond y pethau sydd ar y ddaear; a’r hwn sydd yn aros uwchlaw’r nefoedd yn unig, a gaiff ddeall y pethau sy goruwch uchder y nefoedd.

22Yna yr atebais, gan ddywedyd, Atolwg, Arglwydd, rhodder i mi ddeall:

23Canys nid oedd yn fy mryd i ymofyn yn fanwl am bethau uchel, ond am y pethau sy yn myned heibio i ni beunydd; hynny yw, paham y rhoddwyd Israel yn waradwydd i’r cenhedloedd, a phaham y rhoddwyd y bobl a geraist ti i genhedloedd anwir, a phaham y difethwyd cyfraith ein tadau, ac y dirymwyd yr amodau sgrifenedig.

24Ac yr ydym ni yn myned o’r byd fel ceiliogod rhedyn, a’n heinioes nid yw ddim ond ofn a braw, ac ni haeddwn ni drugaredd.

25Pa beth a wna efe gan hynny i’w enw, ar yr hwn y’n gelwir? am y pethau hyn yr ymofynnais.

26Yna efe a’m hatebodd, gan ddywedyd, Po mwyaf yr ymofynnech, rhyfeddach fydd gennyt; canys mae’r byd ar frys i ymado;

27Ac ni fedr efe ddeall y pethau a addawyd i’r rhai cyfiawn yn yr amser sydd yn dyfod; canys llawn yw’r byd o anghyfiawnder a gwendid.

28Ond am y pethau yr ymofynnaist â mi, mi a ddywedaf i ti; Drygioni a heuwyd, ond ni ddaeth ei ddinistr ef eto.

29Oni ddymchwelir yr hyn a heuwyd, ac onid â y fan lle yr heuwyd y drwg heibio, yna ni ddaw’r hyn a heuwyd â daioni:

30Canys grawn yr had drwg a heuwyd yng nghalon Adda o’r dechrau, a pha gymaint o anwiredd a ddug efe hyd yn hyn? a pha gymaint a ddwg efe eto oni ddêl amser dyrnu?

31Ystyria ynot dy hun, pa gymaint ffrwyth o anwiredd y mae grawn yr had drwg wedi ei ddwyn;

32A phan dorrer y tywys, y rhai sy allan o rifedi, pa lawr dyrnu ei faint a lanwant hwy?

33Yna yr atebais, gan ddywedyd, Pa fodd a pha bryd y bydd hyn? paham y mae ein blynyddoedd yn ychydig ac yn ddrwg?

34Ac efe a’m hatebodd, gan ddywedyd, Na phrysura di yn uwch na’r Goruchaf: canys yn ofer y prysuri i fod uwch ei law ef; canys dy uchder a aeth yn fawr.

35Oni ymofynnodd eneidiau y rhai cyfiawn am y pethau hyn yn eu stafellau, gan ddywedyd, Pa hyd y gobeithiaf fel hyn? pa bryd y daw ffrwyth ein llawr dyrnu, a’n gwobr ni?

36Jeremiel yr archangel a atebodd hynny, gan ddywedyd, Pan gyflawner rhifedi’r had ynoch; canys efe a bwysodd y byd mewn clorian;

37Wrth fesur y mesurodd efe’r amseroedd, ac wrth rifedi y rhifodd efe’r amseroedd; ac ni chynhyrfa efe ac ni symuda hwynt, nes cyflawni’r mesur hwnnw.

38Yna yr atebais, gan ddywedyd, O Arglwydd lywydd, yr ydym ni oll yn llawn anwiredd.

39Ac ysgatfydd er ein mwyn ni y mae na lanwyd ysguboriau y rhai cyfiawn, o achos pechodau y rhai sydd yn aros ar y ddaear.

40Ac efe a’m hatebodd i, gan ddywedyd, Dos ymaith, a gofyn i wraig feichiog, pan gyflawner ei naw mis hi, a all ei chroth hi gadw’r etifedd yn hwy o’i mewn.

41A mi a ddywedais, Na all, Arglwydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yn y bedd y mae stafelloedd eneidiau yn debyg i groth gwraig.

42Canys fel y prysura gwraig wrth esgor i ddianc oddi wrth angen y drafael, felly y prysura’r lleoedd hyn i roddi drachefn yr hyn a roddwyd yno.

43Dangosir i ti o’r dechrau y pethau a ewyllysi gael eu gweled.

44Yna yr atebais, gan ddywedyd, Os cefais ffafr yn dy olwg di, ac od yw bosibl, ac os ydwyf gymwys i hynny,

45Dangos i mi, ai mwy sydd i ddyfod nag a aeth heibio, neu a basiodd mwy nag sydd i ddyfod.

46Mi a wn beth a basiodd, ond ni wn i beth sydd i ddyfod.

47Ac efe a ddywedodd wrthyf, Saf di o’r tu deau, ac mi a ddehonglaf y gyffelybiaeth i ti.

48Ac felly mi a sefais, ac wele, mi a welwn ffwrn boeth yn myned heibio o’m blaen: a digwyddodd, pan aeth y fflam heibio, i mi edrych, ac wele, y mwg oedd yn parhau.

49Yn ôl hyn fe aeth heibio o’m blaen i gwmwl yn llawn o ddwfr, ac efe a ollyngodd i lawr gurlaw mawr; a phan ddarfu’r curlaw, y defnynnau a barhasant.

50Yna y dywedodd efe wrthyf, Ystyria ynot dy hun: megis y mae’r glaw yn fwy na’r defnynnau, a’r tân yn fwy na’r mwg: ond y defnynnau a’r mwg sydd yn aros ar ôl: felly y rhagora’r mesur a aeth heibio.

51Yna y dymunais, gan ddywedyd, A dybygit ti y byddwn i byw hyd y dyddiau hynny? neu pa beth a ddigwydd yn y dyddiau hynny?

52Efe a’m hatebodd i, gan ddywedyd, Am yr arwyddion a ofynnaist i mi, mi a fedraf ddywedyd peth i ti: ond am dy einioes, ni’m danfonwyd i ddangos i ti; ac nis medraf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help